Skip to main content

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: 7 : Ffyddlondeb

Author: Bible Society, 13 April 2017

Ffyddlondeb ydi ffrwyth nesaf yn ein cyfres ‘Ffrwythau’r Ysbryd Glân’. πίστις ydi’r gair Groegaidd y tro yma.

Mae llawer o enghreifftiau o ffyddlondeb yn yr Hen Destament. Mae ysgrifennwr y llythyr at yr Hebreaid yn cyfeirio at rai enghreifftiau ym mhennod 11:

Ffydd Noa wnaeth iddo wrando'n ofalus ar Dduw ac adeiladu llong fawr i achub ei deulu. (Heb 11:7)
Ffydd Abraham wnaeth iddo wrando ar Dduw. Roedd Duw yn ei alw i adael ei gartref a mynd i wlad y byddai'n ei derbyn yn etifeddiaeth yn nes ymlaen. (Heb 11:8)
Ffydd wnaeth alluogi Sara i fod yn fam hefyd. (Heb 11:11).

Yn y Testament Newydd, rydym hefyd yn gweld llawer o bobl oedd yn gweithredu eu ffyddlondeb:

  • Y ffrindiau a ddaeth â dyn oedd wedi'i barlysu at Iesu (Marc 2:1-5)
  • Y wraig oedd â gwaedlif, gyda ffydd byddai Iesu yn ei hiachau hi (Mat 9: 20-22)
  • Y dyn dall ar ochr y ffordd ger Jericho, yn ceisio am ei olwg (Luc 18:35-43).

Mae ‘na lawer mwy hefyd! Mi wnaethon nhw ddod at Iesu efo’r math o ffydd sydd yn disgwyl iddo fo weithredu yn eu bywydau.

Ym mhob un o’i lythyrau mae Paul yn ysgrifennu am bwysigrwydd ffyddlondeb sydd yn disgwyl i Dduw weithredu:

Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw. (Eff 2:8, BCN).

Gan fod y ffydd yma yn rhodd Duw, sut fyddwch chi’n ‘Byw y Beibl’ yr wythnos yma? Beth am:

Ddarllen:
Chwiliwch am enghreifftiau yn y Testament Newydd lle mae pobl yn disgwyl i Iesu wneud rhywbeth. Be’ dach chi’n dysgu am Iesu?

Ystyried: ​
Oes ‘na rywbeth yn eich bywyd rydych chi angen Dduw i wneud? Gweddïwch am ei help ac arhoswch i weld be’ fydd o’n  ei wneud.

Rhannwch eich storiâu ar dudalen Facebook Beibl Byw

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible