Author: Bible Society, 10 March 2017
Ffrwyth nesaf yn ein cyfres am ffrwythau’r Ysbryd Glân ydy χρηστότης (chrestotes): caredigrwydd. (Gal 5.22) Dydy’r gair yma, neu hyd yn oed y gair χρηστός (chrestos: caredig) ddim yn ymddangos llawer o weithiau yn y Testament Newydd, ond mae defnydd y gair yno yn dangos tri pheth pwysig am garedigrwydd:
Mae fy iau i yn gyfforddus (χρηστός) a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl. (Mat 11.30 beibl.net)
Does dim byd tebyg yn unman i'r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. (Eff 2.7, beibl.net)
Bydd hi'n amlwg eich bod yn blant i'r Duw Goruchaf, am mai dyna'r math o beth mae e'n ei wneud – mae'n garedig (χρηστός) i bobl anniolchgar a drwg. (Luc 6.35, beibl.net)
Mae Duw wedi'ch dewis chi iddo'i hun ac wedi'ch caru chi'n fawr, felly dangoswch chithau dosturi at bobl eraill, a bod yn garedig, yn ostyngedig, yn addfwyn ac yn amyneddgar. (Col 3.12, beibl.net)
Ffrwyth yr Ysbryd Glân ydy caredigrwydd – ac mae’r ffrwyth yn tyfu wrth i ni edrych ar ein Duw caredig a phan rydym ni’n dewis i fod yn garedig i bobl o ddydd i ddydd.
Rhannwch eich profiad efo ffrind neu ar dudalen Facebook Beibl Byw
Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Share this: