Skip to main content

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: 4 : Amynedd

Author: Bible Society, 16 February 2017

Goddefgarwch, hirymaros, amynedd: unwaith eto mae ‘na rai geiriau gwahanol yn y Gymraeg sy’n cael eu defnyddio i gyfieithu gair Groeg y bedwerydd ffrwyth, μακροθνμία (makrothymia).

Rhaid i ni feddwl am ffynhonnell y ‘μακροθνμία’ yma. Ffrwyth yr Ysbryd Glân ydy o: ffrwyth Duw, felly. Fedrwn ni ddysgu llawer am y ffrwyth yma gan edrych ar sut mae’r Beibl yn disgrifio Duw ei hun.

Yr ARGLWYDD, yr ARGLWYDD, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb Exodus 34.6

Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon, araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd. Salm 86.15

Gwyddwn dy fod yn Dduw graslon a thrugarog, araf i ddigio, mawr o dosturi ac yn edifar ganddo wneud niwed. Jona 4.2

Mae ein Duw yn ‘araf i ddigio’. Gweler Iesu hefyd, sy’n Fab Duw. Roedd o’n amyneddgar ac yn oddefgar yn ei ymostyngiad i’w Dad (Mat 26.39 a 53) ac i’r awdurdodau Iddewig a Rhufeinig (Mat 27.11).

Beth ydy’ch prif her chi o ran amynedd, goddefgarwch? Aros mewn ciw yn y siop? Gyrru i’r gwaith? Problemau yn y teulu? Sut fedrwch chi weld mwy o’r ffrwyth yma yn eich bywyd? Beth am:

  • Ymarfer bod yn ‘araf i ddigio’: gadael i rywun fynd o’ch blaen yn y ciw yn y siop neu ar y ffordd.
  • Pan ‘dach chi’n teimlo yn ddiamynedd, meddyliwch am Iesu a’i ymostyngiad i bopeth wnaeth digwydd yn ei fywyd. Gofynnwch i’r Ysbryd Glân i dyfu ei ffrwyth yn eich bywyd.
  • Rhannwch eich syniadau eraill ar Dudalen Facebook Beibl Byw.

Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible