Skip to main content

Ffrwythau’r Ysbryd Glân: 1 : Cariad

Author: Bible Society, 8 February 2017

Cariad ydy ffrwyth cyntaf yr Ysbryd Glân yn rhestr Paul (Galatiaid 5.22). Gair Groeg αγαπη (agape) ydy’r gair sy’n cael ei ddefnyddio yma. Dyma’r gair wnaeth Iesu ei ddefnyddio yn Ioan 13.34-35:

Dw i'n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu'ch gilydd yn union fel dw i wedi'ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi'n ddilynwyr i mi, am eich bod chi'n caru'ch gilydd.

Ac mae’r un gair yn cael ei ddefnyddio ym Mhregeth y Mynydd:

Dych chi wedi clywed i hyn gael ei ddweud: ‘Rwyt i garu dy gymydog’ (ac ‘i gasáu dy elyn’). Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Carwch eich gelynion a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid chi! (Mat 5.43,44).

Pa fath o gariad ydy hwn? Dyma ddisgrifiad Paul o αγαπη yn ei lythyr cyntaf i’r Corinthiaid:

Mae cariad yn amyneddgar. Mae cariad yn garedig. Dydy cariad ddim yn cenfigennu, ddim yn brolio'i hun, nac yn llawn ohono'i hun. Dydy cariad ddim yn gwneud pethau anweddus, nag yn mynnu ei ffordd ei hun drwy'r adeg. Dydy e ddim yn digio a phwdu, ac mae'n fodlon anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam. Dydy cariad ddim yn mwynhau gweld drygioni - beth sy'n ei wneud e'n llawen ydy'r gwir. Mae cariad bob amser yn amddiffyn; mae bob amser yn credu; bob amser yn gobeithio; bob amser yn dal ati. Fydd cariad byth yn chwalu. (I Cor 13.4-7)

Beth, felly, fyddwch chi’n ei wneud yr wythnos yma i alluogi cariad, ffrwyth yr Ysbryd Glân, i dyfu yn eich bywyd? Beth am:

  • Ysgrifennu rhestr o ffyrdd mae Duw yn dangos ei gariad i chi (tybed a fydd 1 Cor 13.4-7 yn help dros wneud hyn?)
  • ​Ddarllen Ioan 15.8-17. Gofynnwch i Dduw be’ mae o isio i chi wneud mewn ateb.
  • ​Ystyried: oes ‘na rywun fyddwch chi’n ei weld heddiw dach chi ddim yn ei licio? Sut basech chi’n dangos cariad iddo/i fo/hi heddiw?

Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Daw’r dyfyniadau o’r Ysgrythur o beibl.net © Gobaith i Gymru 2015.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible