Author: Bible Society, 3 August 2017
Dydy’r gair ‘edifeirwch’ ddim yn air mae pobl yn ei ddefnyddio yn aml heddiw. Wrth son am fod yn ‘edifar’ am wneud neu ddweud rhywbeth, yn aml iawn y cwbl mae pobl yn ei olygu ydy eu bod nhw’n sori eu bod wedi ei wneud. Pam? Naill ai oherwydd fod y canlyniadau wedi bod yn anfanteisiol iddyn nhw, neu falle am fod y gydwybod yn pigo.
Yn y Beibl mae ‘edifeirwch’ yn air mwy gweithredol. Pan ddechreuodd Iesu bregethu, ei neges oedd “Edifarhewch a chredwch yr Efengyl” (Marc 1.15 – BCN), neu yng nghyfieithiad beibl.net “Trowch gefn ar bechod a chredu’r newyddion da!”. Mae’r gwahoddiad i edifarhau yn wahoddiad i bawb, ond mae edifarhau yn golygu mwy na theimlo’n ddrwg am ein pechodau. Mae 2 Pedr 3.9 yn dweud wrthon ni fod Duw yn amyneddgar gyda ni: “Bod yn amyneddgar gyda chi mae [Duw]. Does ganddo ddim eisiau i unrhyw un fynd i ddistryw. Mae e am roi cyfle i bawb newid eu ffyrdd (neu ‘edifarhau’)." Mae Duw eisiau i ni fod yn edifar am ein pechodau, ond mae o hefyd am i ni fod yn benderfynol o beidio dal ati i bechu. Wrth gwrs, allwn ni ddim peidio yn ein nerth ein hunain, ond mae Iesu yn cynnig bywyd newydd i ni, a nerth yr Ysbryd Glân i fyw y bywyd hwnnw.
Mae’n rhaid i ni yn gyntaf gydnabod ein pechod. Dwedodd Iesu,
“Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy’n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy’n meddwl eu bod nhw heb fai,” (Luc 5.31-32).
Fel mae Paul yn dweud yn ei lythyr at y Rhufeiniaid, y ffaith ydy ein bod ni i gyd yn bechaduriaid; rydyn ni i gyd angen edifarhau:
“Y rhai sy’n credu sy’n cael perthynas iawn gyda Duw, am fod Iesu y Meseia wedi bod yn ffyddlon. Mae’r un fath i bawb am fod pawb wedi pechu. Does neb wedi gallu cyrraedd safon berffaith Duw ar eu pennau’u hunain.” (Rhufeiniaid 3.22-23).
Mae gynnon ni gymaint i ddiolch i Iesu amdano. Cymerodd y gosb am ein pechod ni arno’i hun, trwy ddioddef ar y groes a marw yn ein lle. Marw er mwyn i ni dderbyn maddeuant a bywyd tragwyddol trwy gredu ynddo:
“Dyma’r newyddion da sy’n dangos i ni sut allwn ni gael perthynas iawn â Duw. Yr unig beth sydd ei angen ydy credu ei fod e’n ffyddlon” (Rhufeiniaid 1.17).
Mae credu yn Iesu, cyffesu ac edifarhau am ein pechod yn golygu troi cefn ar bechod a dechrau byw bywyd ufudd a glân. Fyddwn ni ddim yn llwyddo bob amser, ond mae’r Ysbryd Glân yna i’n helpu i fyw bywydau sy’n dangos ei ffrwyth ymarferol. Fel y dywedodd Ioan Fedyddiwr:
“Rhaid i chi ddangos yn y ffordd dych chi’n byw eich bod wedi newid go iawn” (Luc 3.8).
Dyna ydy edifeirwch go iawn.
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Arfon Jones
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: