Author: Bible Society, 2 August 2017
Yn yr Hen Testament, mae yna sawl enghraifft o ddefnyddio aur ac arian i wneud eilunod (y tarw ifanc aur, er enghraifft, yn Exodus 32). Ond mi wnaeth Duw hefyd gorchymyn i bobl Israel ddefnyddio eu cyfoeth i adeiladu’r tabernacl (Exodus 26-31, 35-39) a’r deml i’w addoli (1 Brenhinoedd 6.7): ac mi wnaethon nhw roi yn haelionus iawn.
Roedd proffwydi’r Hen Testament yn rhybuddio yn erbyn dibynnu ar arian ac aur heb ofalu am bobl mewn angen, neu gofio addoli Duw (Eseia 2; Amos 8). Does ‘na ddim rheol syml o ran sut i ddefnyddio ein harian. Ystyriwch hanes y ddynes wnaeth eneinio Iesu ym Methania:
Roedd rhai o’r bobl oedd yno wedi digio go iawn – ‘Am wastraff!’ medden nhw, ‘Gallai rhywun fod wedi gwerthu’r persawr yna am ffortiwn a rhoi’r arian i bobl dlawd’ (Marc 14.4-5)
Mi wnaeth Iesu ddysgu bod defnyddio arian i’w addoli yn bwrpas da – ond rhaid i’r disgyblion hefyd gofio gofalu am bobl dlawd.
Yn y Testament Newydd mae Iesu yn gofyn i un person ‘gwerthu ei eiddo i gyd a rhoi’r arian i bobl dlawd’ (Mat 19.21). Mae hefyd yn dweud wrth y disgyblion a’r Phariseaid talu eu trethi (Mat 17.24-27; 22:15-17). Mi adroddodd hanesion o bobl yn defnyddio eu harian yn ddoeth: stori y fforman craff, er enghraifft (Luc 16) a dameg y talentau (Mat 25).
Mi wnaeth yr apostolion yn dysgu llawer am ddefnyddio arian. Rhybuddiodd yr ysgrifennydd at y Hebreaid:
Peidiwch gadael i gariad at arian eich meddiannu chi! – byddwch yn fodlon gyda’r hyn sydd gynnoch chi. (Heb 13:5)
Mi wnaeth Paul hefyd yn rhybuddio Timotheus:
Mae ariangarwch wrth wraidd pob math o ddrygioni. (1 Tim 6:10)
Mae’n hawdd pryderu am arian. Cyfarwyddyd Iesu yw ‘Peidiwch poeni’ (Mat 6:25):
Mae’ch Tad nefol yn gwybod am bopeth sydd ei angen arnoch chi...gwnewch yn siŵr mai’r flaenoriaeth i chi ydy ymostwng i’w deyrnasiad e a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg ac wedyn cewch y pethau eraill yma i gyd. (Mat 6:32,33).
Darllenwch Mathew 6:25-34.
• Pa angen sydd arnoch chi’r wythnos yma?
• Beth ydy’ch ymateb at eiriau Iesu yn y darn yma?
• Sut mae hyn yn newid eich agwedd tuag at eich arian?
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: