Skip to main content

Cofio 2

Author: Bible Society, 26 October 2017

Mae’r Beibl yn dweud llawer am sut rydyn ni’n cofio ond hefyd mae ‘na lawer am beth rydyn ni yn ei gofio. Pan oedd yr Israeliaid yn crwydro yn yr anialwch, roedden nhw’n cofio agweddau o’u bywyd yn yr Aifft:

Pan oedden ni yn yr Aifft, roedd gynnon ni ddigonedd o bysgod i'w bwyta, a phethau fel ciwcymbyrs, melons, cennin, nionod a garlleg. Numeri 11:5

Ond roedden nhw wedi anghofio pam y gwnaeth Duw eu hachub :

Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft, lle roeddech chi'n gaethweision. Deut 5:6

Mae ‘na lawer o orchmynion i gofio yn y gyfraith. Pob amser mae Duw yn dweud wrthyn nhw beth i’w gofio:

Cofiwch fod yr ARGLWYDD eich Duw, sydd gyda chi, yn Dduw eiddigeddus. (Deut 6:15)

Peidiwch poeni! Cofiwch beth wnaeth yr ARGLWYDD i'r Pharo ac i wlad yr Aifft. (Deut 7:18)

Cofiwch mai'r ARGLWYDD eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi. (Deut 8:18)

Cofiwch - peidiwch byth anghofio - sut wnaethoch chi ddigio'r ARGLWYDD eich Duw pan oeddech chi'n yr anialwch. (Deut 9:7)

Roedd rhaid iddyn nhw gofio pwy oedd Duw, sut oedd eu bywyd yn yr Aifft, be’ wnaeth Duw, a be’ oedd rhaid iddyn nhw wneud mewn ymateb (Deut 11:2, 14:27, 15:15, 16:12, 24:9, 24:18, 24:22, 25:17, 32:7).

Mae gynnon ni ddewis am be’ rydyn ni’n ei gofio. Gweler y Salmau: Salm 77,78 a 105, er enghraifft.

Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr ARGLWYDD - ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm! Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti, a myfyrio ar y cwbl. Salm 77:11,12

Yng nghanol sefyllfaoedd anodd, dewisodd y Salmyddion gofio pwy ydy Duw a be’ wnaeth o. 

Pa ddewis a wnewch chi heddiw? Beth fyddwch chi’n ei gofio am Dduw? Beth fyddwch chi’n ei gofio am eich bywyd? Beth fyddwch chi’n ei gofio am waith Duw? Sut fydd y Beibl yn eich helpu chi gofio? Rhannwch eich syniadau ar dudalen Facebook Byw y Beibl.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible