Skip to main content

Cofio 1

Author: Andy Knight, 25 October 2017

Mae ‘na gymaint yn y Beibl am gofio fod angen o leiaf dwy erthygl i ni ei ystyried yn drylwyr. Yr wythnos hon mi fyddwn ni’n ystyried sut rydyn ni’n cofio. Wythnos nesaf bydd y canolbwynt ar beth rydyn ni - a Duw - yn ei gofio. 

Wrth edrych trwy’r Beibl mae ‘na lawer o enghreifftiau o sut y mae Duw a’i bobl yn cofio eu hunain ac yn cofio digwyddiadau pwysig. Mae geiriau a straeon yn bwysig, yn ogystal ag arwyddion materol a gweladwy: 

Pan fydd enfys yn y cymylau bydda i'n cofio'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda phob creadur byw sydd ar y ddaear. Genesis 9:16

Clywodd Duw nhw'n griddfan, ac roedd yn cofio ei ymrwymiad i Abraham, Isaac a Jacob. Exodus 2:24

..os gwnân nhw stopio bod mor ystyfnig a derbyn eu bod nhw wedi bod ar fai, bydda i'n cofio'r ymrwymiad wnes i gyda Jacob, a gydag Isaac, a gydag Abraham, a beth wnes i ei addo am y tir rois i iddyn nhw. Lefiticus 26:41, 42

Gorchmynnodd Duw i’r Israeliaid gadw Gŵyl y Bara Croyw a’r Pasg bob blwyddyn ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft, er mwyn iddyn nhw gofio bod Duw wedi eu rhyddhau o fod yn gaethweision. Roedd y llechi (Exodus 24:12), arch y cyfamod ac  yn hwyrach y tabernacl a’r deml hefyd yn atgofion o Dduw a be’ mae o wedi gwneud. 

Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe'n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy'n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae'r cwpan yma'n cynrychioli'r ymrwymiad newydd mae Duw'n ei wneud, wedi'i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.” 1 Cor 11:24,25

Efallai mai’r prif bethau heddiw sydd yn ein helpu i gofio Duw ydy rhannu’r bara a’r gwin a darllen y Beibl. Ydych chi’n cytuno? 

•    Pa enghreifftiau eraill dach chi’n cofio yn y Beibl o bethau sydd yn helpu pobl i gofio Duw - sut un ydy o, sut ymateb mae o isio gennym ni? (Darllenwch Exodus 20:8; Numeri 15:39; Josua 4:1-4, er enghraifft.)
•    Sut dach chi’n cofio Duw a’i gariad a’i gymeriad o ddydd i ddydd?

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Christine Daniel
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible