Skip to main content

Bod yn ddiolchgar

Author: Bible Society, 13 January 2017

Diolchwch i’r Arglwydd! Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd’ 1 Cron 16.8

‘Ewch drwy’r giatiau gan ddiolch iddo, ac i mewn i’w deml yn ei foli’ Salm 100.4

‘Yna, cododd y cwpan, adrodd y weddi o ddiolch eto, a’i basio iddyn nhw… Mat 26.27

Byddwch yn ddiolchgar beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi. Dyna sut mae Duw am i chi ymddwyn, fel pobl sy’n perthyn i’r Meseia Iesu1 Thes 5.18.

Mae’r Beibl yn llawn esiamplau o bobl yn rhoi diolch i Dduw. Yn yr Hen Destament, roedd diolchgarwch yn ganolog i addoliad yr Israeliaid. Gwelwch Lefiticus a’r offrymau diolch (e.e. Lef 7:12); edrychwch trwy’r Salmau a mae bron pob un yn canu diolch i Dduw am eich ffyddlondeb a’i gariad a’i fendithion.

Yn y Testament Newydd dan ni’n medru gweld Iesu ei hun yn rhoi diolch i’w Dad (darllenwch Mat. 15.36, Marc 14.23, Ioan 6.11,23, er enghraifft).

Wnaeth Paul gychwyn bron pob un o’i lythyrau trwy roi diolch. Mae o wedi profi gwerth bod yn ddiolchgar yn ei fywyd, felly wnaeth o hefyd yn ein herio ac ein hannog ni i fod yn ddiolchgar ‘beth bynnag ydy’ch sefyllfa chi’ (I Thes 5.18).

Efallai fedrwch chi feddwl am lawer o enghreifftiau eraill. Os ydy bod yn ddiolchgar mor bwysig yn y Beibl, beth ddylen ni ei wneud mewn ateb? Dyma rai awgrymiadau. Rhannwch eich profiad a’ch syniadau ar dudalen Facebook Beibl Byw.

Beth am:

  • Nodi tri peth pob dydd dach chi’n ddiolchgar amdanyn nhw
  • Dweud diolch i’ch ffrindiau neu’ch teulu am bethau dach chi fel arfer yn ‘cymryd yn ganiataol’
  • Dweud wrth rywun bod chi’n ddiolchgar amdano/i fo/hi.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible