Author: Bible Society, 18 July 2017
Mae’r Beibl yn cydnabod bod arian yn beth arwyddocaol yn ein bywydau. Roedd aur, arian a phres mor bwysig yn amser Abraham ag yr oedd yn amser Paul a’r apostolion. Mae’n dal i fod yn bwysig i ni heddiw.
Roedd pobl y Beibl yn defnyddio arian yn yr un modd â ni: prynu bwyd; talu trethi; rhoi rhoddion; adeiladu tai. Mi wnaethon nhw ddefnyddio eu cyfoeth i ddangos nerth a phwysigrwydd, adeiladu llefydd addoli, a gwneud eilunod. Mae’r Beibl yn rhoi sawl enghraifft o’r ffyrdd mae arian wedi dyfod yn hanfodol ym mywydau pawb bob dydd. Mae hefyd yn ymddangos bod yna bobl cyfoethog a phobl dlawd ers talwm, fel y mae heddiw. Cofiwch eiriau’r Iesu:
Bydd pobl dlawd o gwmpas bob amser, a gallwch eu helpu nhw unrhyw bryd (Marc 14:7)
Yn ôl y Beibl, tydi arian ei hun ddim yn beth da, neu’n beth drwg. Ond mi fedrwn ni feddwl am arian mewn ffyrdd anghywir ac mi fedrwn ni gamddefnyddio arian hefyd.
Er bod y Beibl yn dangos bod arian wedi bod yn beth pwysig ym mywydau pawb erioed, mae hefyd yn dweud nad yw mor bwysig â Duw ei hun nag â doethineb neu air Duw:
Yr ARGLWYDD sydd piau popeth wedi ei wneud o arian neu aur, pres neu haearn (Josua 6:19)
Y fath fendith sydd i'r sawl sy'n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall. Mae'n gwneud mwy o elw nag arian, ac yn talu'n ôl lawer mwy nag aur. (Diarhebion 3:13-14)
Mae beth rwyt ti’n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur (Salm 119:72)
Yn y diwedd, ni fedrai dim byd neu neb ond Duw ei hun ein hachub ni:
Fydd arian ac aur ddim yn eu harbed nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu (Seff. 1:18)
Wythnos nesaf, mi fyddwn ni’n ystyried be’ mae’r Beibl yn ei ddweud am ddefnyddio ein harian.
Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma
Christine Daniel
Mae Byw y Beibl yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru
Share this: