Skip to main content

Adfent

Author: Bible Society, 28 November 2017

Cyfnod o ymprydio cyn y Nadolig oedd tymor yr Adfent yn wreiddiol. Roedd yn dechrau ar Sul y Dyfodiad, sef y pedwerydd Sul cyn y Nadolig. Yn ôl pob tebyg arferiad ddaeth o’r Almaen ganol yr ugeinfed ganrif yw Calendr yr Adfent.

Yn ystod tymor yr Adfent dethlir Gwyl Sant Niclas ar 6 Rhagfyr. Dyma Sinfer Klaus yn yr Iseldiroedd, ac o’r enw hwn y cawsom Santa Clos. Fe’i ganed yn Lycia yn Asia Leiaf o gwmpas OC 270 ac yn ddwy ar bymtheg oed fe’i hordeiniwyd yn offeiriad. Er ei fod yn ŵr cyfoethog, ei ddymuniad oedd rhannu ei ffortiwn efo pobl dlawd a hynny yn y dirgel heb i neb wybod pwy oedd yn dosbarthu’r anrhegion. Sant Niclas ydi nawddsant gwlad Groeg a Rwsia.

Mae ail Sul yr Adfent yn Sul y Beibl. Sul i gofio am orchestion William Morgan, William Salesbury a Thomas Charles o’r Bala a oedd i raddau helaeth iawn yn gyfrifol am sefydlu’r Feibl Gymdeithas ym 1804.

Fel mae tymor yr Adfent yn dirwyn i ben dathlwn Droad y Rhod neu Alban Arthen, y dydd byrraf ar 21 Rhagfyr. Yn ôl hen arferiad rhoddwyd torch o ganghennau bytholwyrdd i warchod y beudy. Hen goel arall oedd y byddai’r gwartheg am hanner nos yn penlinio i gydnabod geni Iesu Grist.

Roedd 21 Rhagfyr hefyd yn Ddydd Gwyl Tomos ac o pa le bynnag y byddai’r gwynt yn chwythu ar y diwrnod hwn yno y byddai am weddill y gaeaf.

Mae’r paratoadau ar gyfer y Nadolig yn dechrau gyda Duw yn dewis merch ifanc gyffredin:

Yn y chweched mis anfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i dref yng Ngalilea o’r enw Nasareth, at wyryf oedd wedi ei dyweddïo i wr o’r enw Joseff, o dÿ Dafydd; Mair oedd enw’r wyryf. Luc 1:26–27

Grym ysbryd Duw ei hun oedd yn gyfrifol am y wyrth:

Atebodd yr angel hi, “Daw’r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw.” Luc 1:35

Mae’r proffwyd yn disgwyl yn eiddgar am ‘ein Duw ni’:

Yn y dydd hwnnw fe ddywedir, “Wele, dyma ein Duw ni. Buom yn disgwyl amdano i’n gwaredu; dyma’r ARGLWYDD y buom yn disgwyl amdano, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth.” Eseia 25: 9

Gweledigaeth fawr yr Ail Eseia yw paratoi’r genedl ar gyfer dyfodiad y Meseia:

Llais un yn galw, “Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch yn y diffeithwch briffordd i’n Duw ni.” Eseia 40:3

Mae dyddiau digofaint yn mynd heibio, bydd y dyfodol yn llaw bachgen a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd ef:

Canys bachgen a aned i ni, mab a roed i ni, a bydd yr awdurdod ar ei ysgwydd. Fe’i gelwir, “Cynghorwr rhyfeddol, Duw cadarn, Tad bythol, Tywysog heddychlon”. Eseia 9: 6

Mae’r proffwyd yn gweld dydd barn yn agosáu pan fydd Duw yn anfon ei gennad i baratoi’r ffordd:

“Wele fi’n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o’m blaen; ac yn sydyn fe ddaw’r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i’w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. Malachi 3:1

Paratown ein hunain ar gyfer dyfodiad Iesu. Gweddiwn:

Diolchwn i ti, O Arglwydd, am roi i ni dy Fab Iesu Grist,
a ddaeth atom yn ostyngedig yn nhlodi Bethlehem.
Wrth i ni baratoi i ddathlu ei eni, glanha ein calonnau a’n bywydau
er mwyn i ni allu ei groesawu’n llawen yn Waredwr ein bywyd,
a phan ddaw mewn gogoniant y byddwn yn bobl barod iddo ef,
sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân byth heb ddiwedd.
Amen.

Gallwch ddarllen mwy o flog Byw y Beibl yma


Aled Davies
Mae Byw y Beibl  yn brosiect ar y cyd rhwng Cymdeithas y Beibl, Y Cyngor Ysgolion Sul a Gobaith i Gymru

 


Share this:

Read the Bible icon Read the Bible
Open the full Bible