Rhesymau i gredu ym mhŵer y Beibl
‘Roedd fy rhieni yn genhadon a chefais fy magu yn Japan. Pan oeddwn yn 16 oed daethom yn ôl i'r DU, a blwyddyn yn ddiweddarach penderfynais gael fy medyddio. Ond, gan fy mod i wedi cael fy magu mewn teulu Cristnogol, doeddwn i ddim wedi cael tröedigaeth. Nid oedd unrhyw ‘cyn’ ac ‘ar ôl’ i mi. Allwn i ddim uniaethu â straeon am sut y daeth pobl yn Gristnogion.
‘Roeddwn wedi cael fy nadwreiddio ac yn profi ysgytwad diwylliannol. Roeddwn i wedi newid gwledydd, ysgolion ac un o fy anawsterau oedd nad oeddwn i'n ffitio i mewn gyda’r bobl ifanc yn fy eglwys. Roeddwn i'n teimlo fy mod ar y cyrion ac yn meddwl mai’r rheswm am hynny oedd oherwydd nad oeddwn i'n Gristion. Nawr, rwy'n sylweddoli fy mod i'n wahanol yn ddiwylliannol ac yn alluog yn academaidd. Ond, yna roeddwn i'n meddwl nad oeddwn i'n Gristion.
‘Fe wnes i ddod o hyd i ddarn yn Eseia 40 sy'n dweud, “Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r Arglwydd a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.”
‘Fe wnaeth hynny fy helpu i weld fy mod i wedi clywed, roeddwn i'n gwybod. Nid oedd yn rhaid i mi gael profiad dramatig. Fe roddodd sicrwydd imi fy mod yn iawn, roeddwn yn Gristion ac roedd Duw wedi siarad â mi. Roeddwn i eisiau cael fy medyddio oherwydd roeddwn i eisiau dweud, ‘Dyma fy ffydd’. Roeddwn i'n gwybod mai fy ffydd ydoedd. Roedd yn ddiwrnod arbennig iawn, iawn.’
Oes gennych chi stori i rannu? E-bostiwch [email protected]
Hoffech rannu sut mae’r Beibl wedi cael effaith ar eich bywyd? E-bostiwch [email protected]