Mae’r adnoddau hyn ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Mae ein llyfryn newydd i blant dros y Nadolig, Mae’n Dechrau Draw ym Methlehem – Rhigwm Stori’r Geni ar gyfer Nadolig eleni yn rhoi golwg newydd i ni ar y geni gyda rhigymau hyfryd wedi eu haddasu o’r fersiwn gwreiddiol gan Bob Hartman a lluniau bywiog gan Mark Beech.
Darganfyddwch anrheg Nadolig Duw i chi!
Ydych chi’n chwilio am fersiwn hwyliog a rhyngweithiol o stori’r Geni, sydd ddim angen ei ymarfer cyn ei pherfformio yn eich eglwys? Peidiwch ag edrych ymhellach! Yn addasiad gan Bob Hartman o’r llyfryn plant, bydd pawb o bob oed yn mwynhau’r sgript egnïol hon mewn gwasanaeth Nadolig.
Bydd gennym fideo animeiddiedig bywiog o’r llyfryn, perffaith i’w ddangos yn eich gwasanaeth eglwys – ar gael o ddechrau mis Hydref.