Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 94

SALM 94

1O Arglwydd Dduw y dial, O Dduw y dial, ymddisgleiria.

2Ymddyrcha, Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.

3Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?

4Pa hyd y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?

5Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.

6Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.

7Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn.

8Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?

9Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?

10Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?

11Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.

12Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith:

13I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.

14Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.

15Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.

16Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?

17Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.

18Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd.

19Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.

20A fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith?

21Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.

22Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded.

23Ac efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.