SALM 24
Salm Dafydd.
1Eiddo yr ARGLWYDD y ddaear, a'i chyflawnder; y byd, ac a breswylia ynddo.
2Canys efe a'i seiliodd ar y moroedd, ac a'i sicrhaodd ar yr afonydd.
3Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD? a phwy a saif yn ei le sanctaidd ef?
4Y glân ei ddwylo, a'r pur ei galon; yr hwn ni ddyrchafodd ei feddwl at wagedd, ac ni thyngodd i dwyllo.
5Efe a dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD, a chyfiawnder gan DDUW ei iachawdwriaeth.
6Dyma genhedlaeth y rhai a'i ceisiant ef, y rhai a geisiant dy wyneb di, O Jacob. Sela.
7O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
8Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? yr ARGLWYDD nerthol a chadarn, yr ARGLWYDD cadarn mewn rhyfel.
9O byrth, dyrchefwch eich pennau; ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol; a Brenin y gogoniant a ddaw i mewn.
10Pwy yw y Brenin gogoniant hwn? ARGLWYDD y lluoedd, efe yw Brenin y gogoniant. Sela.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.