SALM 135
1Molwch yr ARGLWYDD. Molwch enw yr ARGLWYDD; gweision yr ARGLWYDD, molwch ef.
2Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr ARGLWYDD, yng nghynteddoedd tŷ ein DUW ni,
3Molwch yr ARGLWYDD; canys da yw yr ARGLWYDD: cenwch i'w enw; canys hyfryd yw.
4Oblegid yr ARGLWYDD a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo.
5Canys mi a wn mai mawr yw yr ARGLWYDD; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau.
6Yr ARGLWYDD a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau.
7Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â'r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o'i drysorau.
8Yr hwn a drawodd gyntaf-anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail.
9Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i'th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision.
10Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion;
11Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan:
12Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl.
13Dy enw, O ARGLWYDD, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O ARGLWYDD, o genhedlaeth i genhedlaeth.
14Canys yr ARGLWYDD a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision.
15Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn.
16Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant.
17Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau.
18Fel hwynt y mae y rhai a'u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt.
19Tŷ Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD: bendithiwch yr ARGLWYDD, tŷ Aaron.
20Tŷ Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD: y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
21Bendithier yr ARGLWYDD o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr ARGLWYDD.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.