Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 120

SALM 120

Caniad y graddau.

1Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i.

2Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus.

3Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus?

4Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw.

5Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar.

6Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd.

7Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.