Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Y Salmau 110

SALM 110

Salm Dafydd.

1Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn fainc i’th draed.

2Gwialen dy nerth a enfyn yr Arglwydd o Seion: Ilywodraetha di yng nghanol dy elynion.

3Dy bobl a fyddant ewyllysgar yn nydd dy nerth, mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr: y mae gwlith dy enedigaeth i ti.

4Tyngodd yr Arglwydd, ac nid edifarha, Ti wyt offeiriad yn dragwyddol, yn ôl urdd Melchisedec.

5Yr Arglwydd ar dy ddeheulaw a drywana frenhinoedd yn nydd ei ddigofaint.

6Efe a farn ymysg y cenhedloedd; lleinw leoedd â chelaneddau: archolla ben llawer gwlad.

7Efe a yf o’r afon ar y ffordd: am hynny y dyrcha efe ei ben.