Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Seffaneia 2

Galwad i droi at Dduw

1Dewch, casglwch at eich gilydd,

y genedl sydd heb gywilydd.

2Dewch cyn i’r cwbl ddod yn wir,

ac i’ch cyfle olaf ddiflannu fel us –

Cyn i’r ARGLWYDD wylltio’n lân gyda chi;

cyn i’w ddydd barn eich dal chi!

3Gofynnwch i’r ARGLWYDD eich helpu,

chi sy’n cael eu cam-drin yn y wlad

ac sy’n ufudd i’w orchmynion.

Gwnewch beth sy’n iawn. Byddwch yn ostyngedig.

Falle y cewch eich cuddio mewn lle saff

ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu.

Barnu Philistia

4Bydd tref Gasa’n wag ac Ashcelon yn adfeilion.

Bydd pobl Ashdod wedi’u gyrru i ffwrdd cyn canol dydd,

a tref Ecron wedi’i bwrw i lawr.

5Gwae chi sy’n byw ar lan y môr –

bobl Philistia ddaeth o Creta.

Amdanat ti Canaan, wlad y Philistiaid,

mae’r ARGLWYDD wedi dweud yn dy erbyn:

“Bydda i’n dy ddinistrio, a fydd neb ar ôl!”

6Bydd yr arfordir yn dir pori –

dolydd i fugeiliaid a chorlannau defaid.

7Bydd tir y glannau yn eiddo

i’r bobl sydd ar ôl o Jwda;

Nhw fydd yn pori yno

ac yn cysgu’r nos yn nhai Ashcelon.

Bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn dod atyn nhw,

a rhoi llwyddiant iddyn nhw eto.

Notes for verses 4–71 entry

Text notes

  • Zephaniah 2:4 Gasa … Ecron Gasa, Ashcelon, Ashdod, Ecron – pedair o brif drefi’r Philistiaid. Roedd y pumed, sef Gath, eisoes wedi’i dinistrio gan Sargon II, brenin Asyria yn 711 CC. View in passage

Barnu Moab ac Ammon

8“Dw i wedi clywed Moab yn gwawdio

a phobl Ammon yn enllibio –

gwawdio fy mhobl, a bygwth eu ffiniau.

9Felly, mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw,”

Notes for verses 8–91 entry

Text notes

  • Zephaniah 2:8 Moab … Ammon Y bobloedd i’r dwyrain o Jwda, yr ochr draw i afon Iorddonen. Disgynyddion Lot, nai Abraham, yn ôl Genesis 19:30-38. View in passage

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel.

“Bydd Moab fel Sodom ac Ammon fel Gomorra! –

yn llawn chwyn a phyllau halen,

ac yn dir diffaith am byth.

Bydd y rhai sydd ar ôl o’m pobl yn dwyn eu heiddo,

a’r gweddill o’m gwlad yn cymryd eu tir.”

10Dyna fydd eu tâl am eu balchder,

am wawdio a bygwth pobl yr ARGLWYDD hollbwerus.

11Bydd yr ARGLWYDD yn eu dychryn,

a bydd holl dduwiau’r ddaear yn ddim.

Yna bydd pobl pob cenedl yn addoli’r ARGLWYDD

yn eu gwledydd eu hunain.

Notes for verses 9–111 entry

Cross-references

Barnu gogledd-ddwyrain Affrica

12A chi, bobl dwyrain Affrica,

bydd fy nghleddyf yn eich lladd chi.

Notes for verse 122 entries

Text notes

  • Zephaniah 2:12 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh, sef yr ardal i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Swdan ac Ethiopia heddiw. View in passage

Cross-references

Barnu Asyria

13Bydd yr ARGLWYDD yn taro’r gogledd

ac yn dinistrio Asyria.

Bydd dinas Ninefe yn adfeilion;

yn sych fel anialwch diffaith.

14Bydd pob math o anifeiliaid gwyllt

yn gorwedd yn ei chanol.

Bydd tylluanod yn clwydo yn ei hadfeilion,

ac yn hwtian yn y ffenestri.

Bydd rwbel ar bob rhiniog

a’r waliau’n noeth

am fod yr holl waith coed wedi’i rwygo allan.

Notes for verses 13–142 entries

Text notes

  • Zephaniah 2:13 Ninefe yn adfeilion Prif ddinas Asyria – gw. Jona 1:2; 3:2; 4:11. Cafodd ei choncro gan y Mediaid a’r Babiloniaid yn 612 CC, felly mae’n bosib fod Sechareia wedi byw i weld ei broffwydoliaeth yn dod yn wir. Mae Llyfr Nahum yn dathlu cwymp Ninefe. View in passage

Cross-references

15Dyna ddaw o’r ddinas llawn miri

oedd yn ofni neb na dim!

Roedd yn meddwl, “Fi ydy’r un! –

Does neb tebyg i mi!”

Ond fydd dim ond adfeilion ar ôl –

lle i anifeiliaid gwyllt gael byw!

Bydd pawb sy’n mynd heibio yn ei gwawdio

a gwneud ystumiau arni.

Notes for verse 151 entry

Cross-references