Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 7

Cwestiwn am Ymprydio

1Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Dareius, ar y pedwerydd o fis Cislef (sef y nawfed mis), dyma’r ARGLWYDD yn rhoi neges i Sechareia. 2Roedd pobl Bethel wedi anfon Saretser a Regem-melech a’i ddynion i ofyn am fendith yr ARGLWYDD. 3Roedden nhw hefyd i fynd i deml yr ARGLWYDD hollbwerus, a gofyn i’r offeiriaid a’r proffwydi, “Ddylen ni ddal i alaru ac ymprydio yn y pumed mis, fel dŷn ni wedi gwneud ar hyd y blynyddoedd?”

Notes for verses 1–33 entries

Text notes

  • Zechariah 7:1 Yn y bedwaredd … nawfed mis Cislef oedd nawfed mis calendr Babilon, o tua canol Tachwedd i ganol Rhagfyr; pedwaredd blwyddyn teyrnasiad Dareius oedd 518 CC Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Rhagfyr 7, 518 CC yn ein calendr ni. View in passage

  • Zechariah 7:3 pumed mis Roedden nhw’n gwneud hyn i gofio teml Solomon yn cael ei dinistrio gan y Babiloniaid ar Awst 14, 586 CC, bron saith deg mlynedd cyn hynny – gw. 2 Brenhinoedd 25:8-9. View in passage

  • Zechariah 7:3 Mae’r ateb i’r cwestiwn yn cael ei roi yn 8:19. View in passage

4Dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD hollbwerus. 5“Dwed wrth bobl y wlad, a’r offeiriaid i gyd: ‘Dych chi wedi bod yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed a’r seithfed mis ers saith deg mlynedd. Ond ydych chi wir wedi bod yn gwneud hynny i mi? 6Na, fel pan dych chi’n yfed a gwledda, dych chi’n ei wneud i blesio’ch hunain!’ 7Dyna’n union beth roedd yr ARGLWYDD yn ei ddweud drwy ei broffwydi bryd hynny, pan oedd Jerwsalem a’r pentrefi o’i chwmpas yn ffynnu, a phobl yn byw yn y Negef i’r de a’r iseldir yn y gorllewin.”

Notes for verses 4–72 entries

Text notes

  • Zechariah 7:5 seithfed mis Ympryd i gofio llofruddiaeth Gedaleia (sef y dyn gafodd ei benodi gan y Babiloniaid i reoli Jwda ar ôl iddyn nhw goncro’r wlad) – gw. 2 Brenhinoedd 25:22,25 a Jeremeia 41:1-3. View in passage

Cross-references

  • Zechariah 7:7 – Isaiah 1:10–15 ; Isaiah 58:1–7 ; Amos 5:21–24

Y rheswm am y Gaethglud

8A dyma Sechareia’n cael neges arall gan yr ARGLWYDD. 9“Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi bod yn ei ddweud,

‘Byddwch yn deg bob amser,

yn garedig a thrugarog at eich gilydd.

10Peidiwch cam-drin gwragedd gweddwon,

plant amddifad, mewnfudwyr a phobl dlawd.

A pheidiwch bwriadu drwg i unrhyw un arall.’

Notes for verses 9–101 entry

Cross-references

  • Zechariah 7:10 – Isaiah 1:17 ,Isaiah 1:23 ; Jeremiah 5:28 ; Jeremiah 7:5–7 ; Jeremiah 21:12 ; Jeremiah 22:3 ; Amos 5:14–15 ,Amos 5:24 ; Micah 6:8

11“Ond doedden nhw’n cymryd dim sylw. Roedden nhw’n hollol benstiff, ac yn gwrthod yn lân a gwrando. 12Roedd eu calonnau’n galed fel diemwnt, nes eu bod yn gwrthod gwrando ar fy nysgeidiaeth, nac ar y negeseuon eraill roedd fy Ysbryd wedi’u rhoi i’r proffwydi cynnar yna eu cyhoeddi. A dyna pam wnaeth yr ARGLWYDD hollbwerus dywallt ei lid arnyn nhw.

Notes for verses 11–121 entry

Cross-references

“Dwedodd yr ARGLWYDD hollbwerus.

13‘Pan oeddwn i’n galw arnyn nhw,

doedden nhw ddim yn gwrando.

Felly pan fyddan nhw’n galw arna i,

fydda i ddim yn gwrando chwaith.

14Yn lle hynny bydda i’n eu hysgubo nhw i ffwrdd

mewn storm i wledydd dieithr.’

Notes for verses 13–141 entry

Cross-references

  • Zechariah 7:13 – Jeremiah 11:11 ; Jeremiah 35:17 ; Ezekiel 8:18 ; Micah 3:4

“A dyna pam mae’r wlad yma’n anial, heb neb yn mynd a dod ynddi. Nhw sydd wedi gwneud y tir hyfryd yma yn anialwch diffaith!”