Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 4

Gweledigaeth 5 – Y Menora

1Wedyn dyma’r angel oedd wedi bod yn siarad â mi yn dod yn ôl a’m hysgwyd, fel petai’n deffro rhywun oedd wedi bod yn cysgu. 2Gofynnodd i mi, “Beth wyt ti’n weld?” A dyma fi’n ateb, “Menora o aur pur, gyda phowlen ar y top a saith lamp arni, a saith sianel yn rhedeg iddyn nhw. 3Ac roedd dwy goeden olewydd wrth ei hymyl – un bob ochr i’r powlen.”

Notes for verses 1–31 entry

Text notes

  • Zechariah 4:2 Menora Stand i ddal lampau, neu ganhwyllbren saith cangen fel yr un oedd yn y Tabernacl a’r Deml (gw. Exodus 25:30-36). View in passage

4A dyma fi’n gofyn i’r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy’r rhain, syr?” 5“Wyt ti wir ddim yn gwybod?” meddai’r angel. “Nac ydw, syr,” meddwn innau.

Notes for verses 4–51 entry

Text notes

  • Zechariah 4:4 “Beth ydy’r rhain, syr?” Mae’r ateb yn cael ei roi yn adn. 10b-14. View in passage

6Yna dwedodd wrtho i, “Dyma neges yr ARGLWYDD i Serwbabel: ‘Nid grym na chryfder sy’n llwyddo, ond fy Ysbryd i.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. 7Fyddi di fynydd mawr yn ddim rhwystr i Serwbabel! Byddi fel tir gwastad! Bydd e’n dod â’r garreg olaf i’w gosod yn ei lle, i sŵn gweiddi, ‘Mae’n hyfryd! Mae’n hyfryd!’”

Notes for verses 6–72 entries

Text notes

  • Zechariah 4:6 Serwbabel Llywodraethwr Jwda (gw. Haggai 1:1). View in passage

Cross-references

8Yna dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: 9“Serwbabel wnaeth osod sylfeini y deml yma, a bydd e’n gorffen y gwaith.” Byddwch chi’n gwybod wedyn mai’r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi fy anfon i atoch chi. 10“Pwy wnaeth ddirmygu’r dechreuadau bach? Byddwch yn dathlu wrth weld y garreg â’r plât tin arni yn llaw Serwbabel! Felly mae’r saith lamp yn cynrychioli llygaid yr ARGLWYDD, sy’n gwylio popeth sy’n digwydd ar wyneb y ddaear.”

11A dyma fi’n gofyn i’r angel, “Beth ydy ystyr y ddwy goeden olewydd, un bob ochr i’r menora?” 12A gofynnais hefyd, “Beth ydy ystyr y ddau estyniad i’r coed olewydd sy’n tywallt olew euraid i’r sianeli?” 13“Wyt ti wir ddim yn gwybod beth ydyn nhw?” meddai. “Nac ydw, syr,” meddwn innau. 14A dyma fe’n dweud, “Maen nhw’n cynrychioli’r ddau ddyn sydd wedi’u heneinio i wasanaethu Duw, Meistr y ddaear gyfan.”