Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 13

1“Bryd hynny bydd ffynnon wedi’i hagor bob amser i deulu brenhinol Dafydd a phobl Jerwsalem, i’w glanhau o bechod ac aflendid.”

Cael gwared ag eilun-dduwiau a phroffwydi ffals

2“Bryd hynny hefyd,” – meddai’r ARGLWYDD hollbwerus – “dw i’n mynd i gael gwared â’r eilunod o’r tir. Fydd neb yn cofio eu henwau nhw hyd yn oed. A bydda i hefyd yn cael gwared â’r proffwydi ffals a’r ysbrydion aflan o’r tir. 3Wedyn os bydd rhywun yn proffwydo, bydd ei dad a’i fam yn dweud wrtho, ‘Rhaid i ti farw! Ti’n honni siarad ar ran yr ARGLWYDD, ond yn proffwydo celwydd!’ A bydd ei dad a’i fam yn ei drywanu i farwolaeth.

Notes for verses 2–33 entries

Cross-references

4“Bryd hynny bydd gan broffwyd gywilydd o’i weledigaethau, a bydd yn ceisio cuddio’r gwir drwy stopio gwisgo clogyn blewog proffwydi. 5Bydd yn gwadu popeth a dweud, ‘Fi? Dw i ddim yn broffwyd. Dw i wedi bod yn gweithio fel gwas ar y tir es pan oeddwn i’n ifanc.’ 6Yna bydd rhywun yn gofyn iddo, ‘Felly, beth ydy’r creithiau yna ar dy frest di?’ A bydd yn ateb, ‘Ces fy anafu yn nhŷ ffrindiau.’”

Notes for verses 4–61 entry

Text notes

  • Zechariah 13:6 creithiau Roedd pobl yn torri eu hunain gyda cyllyll, fel rhan o’r ddefod, wrth addoli’r duwiau ffals (gw. 1 Brenhinoedd 18:28). View in passage

Y Bugail a’r defaid

7Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud:

“Deffra gleddyf! Ymosod ar fy mugail,

y dyn sy’n agos ata i.

Taro’r bugail,

a bydd y praidd yn mynd ar chwâl.

Bydda i’n taro’r rhai bach hefyd.

8Dyna fydd yn digwydd drwy’r wlad i gyd,”

–yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.

“Bydd dwy ran o dair yn cael eu lladd,

gan adael un rhan o dair ar ôl.

9A bydda i’n arwain y rheiny drwy dân,

i’w puro fel mae arian yn cael ei buro,

a’u profi fel mae aur yn cael ei brofi.

Byddan nhw’n galw ar fy enw i,

a bydda i’n ateb.

Bydda i’n dweud, ‘Fy mhobl i ydy’r rhain,’

a byddan nhw’n dweud, ‘Yr ARGLWYDD ydy ein Duw ni.’”