Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Sechareia 1

Galwad i droi’n ôl at yr ARGLWYDD

1Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma’r proffwyd Sechareia (mab Berecheia ac ŵyr i Ido) yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:

Notes for verse 12 entries

Text notes

  • Zechariah 1:1 Roedd wythfed mis calendr Babilon yn cyfateb i wythfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Hydref i ganol Tachwedd. Dareius Hystaspes, oedd yn teyrnasu ar Ymerodraeth Persia o 522 i 486 CC Ail flwyddyn teyrnasiad Dareius oedd 520 CC. View in passage

Cross-references

2“Roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda’ch hynafiaid chi. 3Felly dywed wrth y bobl: ‘Dyma mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Trowch yn ôl ata i, a bydda i’n troi atoch chi. Ie, dyna mae e’n ddweud. 4Peidiwch bod yr un fath â’ch hynafiaid, oedd yn cymryd dim sylw o gwbl pan oedd y proffwydi’n dweud wrthyn nhw fy mod i eisiau iddyn nhw stopio gwneud pethau drwg, meddai’r ARGLWYDD. 5A ble mae’ch hynafiaid chi bellach? Maen nhw a’r proffwydi wedi hen fynd! 6Ond daeth y cwbl ddwedais i fyddai’n digwydd iddyn nhw yn wir! Roedden nhw’n edifar wedyn, ac roedd rhaid iddyn nhw gyfaddef, “Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi gwneud beth ddwedodd e, a dyna roedden ni’n ei haeddu.”’”

Notes for verses 2–62 entries

Cross-references

  • Zechariah 1:4 – Jeremiah 7:24 ; Jeremiah 17:23 ; Jeremiah 29:19

  • Zechariah 1:4 – Jeremiah 18:11 ; Jeremiah 25:5 ; Jeremiah 35:15

Gweledigaeth 1 – Ceffylau

7Ar y pedwerydd ar hugain o fis un ar ddeg (sef mis Shebat) yn ail flwyddyn teyrnasiad Dareius, dyma’r proffwyd Sechareia yn cael neges arall gan yr ARGLWYDD. Dwedodd Sechareia:

Notes for verse 71 entry

Text notes

  • Zechariah 1:7 Shebat unfed mis ar ddeg calendr Babilon, o tua canol Ionawr i ganol Chwefror. Mae’r dyddiad yma’n cyfateb i Chwefror 15, 519 CC yn ein calendr ni. View in passage

8Ces i weledigaeth yng nghanol y nos. Gwelais ddyn ar gefn ceffyl fflamgoch. Roedd e’n sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn y ceunant. Roedd ceffylau eraill tu ôl iddo – rhai fflamgoch, rhai llwyd a rhai gwyn. 9Roedd angel yna wrth ymyl, a dyma fi’n gofyn iddo, “Beth ydy ystyr hyn, syr?” A dyma fe’n ateb, “Gwna i ddangos i ti.”

10Yna dyma’r dyn oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd yn siarad, a dweud, “Yr ARGLWYDD sydd wedi anfon y rhain i chwilio a gweld beth sy’n digwydd ar y ddaear.” 11A dyma’r marchogion eraill yn rhoi adroddiad i angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll rhwng y llwyni myrtwydd: “Dŷn ni wedi bod i edrych dros y ddaear gyfan, ac mae pobman dan reolaeth ac yn dawel.”

12Yna dyma angel yr ARGLWYDD yn gofyn, “ ARGLWYDD hollbwerus, rwyt ti wedi bod yn flin gyda Jerwsalem a threfi eraill Jwda ers saith deg o flynyddoedd bellach. Am faint mwy, cyn i ti i ddangos trugaredd atyn nhw?”

Notes for verse 121 entry

Cross-references

13A dyma’r ARGLWYDD yn ateb a dweud pethau caredig i gysuro’r angel oedd yn siarad â mi. 14A dyma’r angel yn troi ata i, a dweud wrtho i, “Cyhoedda fod yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud,

‘Dw i’n teimlo i’r byw dros Jerwsalem a dros Seion. 15Ond dw i wedi digio go iawn gyda’r gwledydd hynny sydd mor gyfforddus a hunanfodlon! Oeddwn, roeddwn i yn ddig gyda’m pobl, ond aeth y rhain yn rhy bell gyda’i creulondeb! 16Felly, dw i’n mynd i droi’n ôl at Jerwsalem, a dangos trugaredd ati. Dw i’n mynd i adeiladu fy nheml yno eto. Bydd syrfëwr yn dod i fesur Jerwsalem unwaith eto.’ Ie, dyna mae’r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud. 17Cyhoedda’n uchel eto beth ydy neges yr ARGLWYDD hollbwerus: ‘Bydd y trefi’n fwrlwm o fywyd ac yn llwyddo. Bydd yr ARGLWYDD yn cysuro Seion, ac yn dangos eto ei fod wedi dewis Jerwsalem iddo’i hun,’”

Notes for verses 14–171 entry

Cross-references

Gweledigaeth 2 – Pedwar corn anifail

18Pan edrychais eto, gwelais bedwar corn anifail. 19Dyma fi’n gofyn i’r angel oedd yn siarad â mi, “Beth ydy’r cyrn yma?” A dyma fe’n ateb, “Y cyrn yma ydy’r gwledydd pwerus wnaeth yrru Jwda, Israel a Jerwsalem ar chwâl.”

Notes for verses 18–191 entry

Text notes

  • Zechariah 1:18 corn anifail Roedd corn yn symbol o nerth a grym. Yma maen nhw’n cynrychioli’r gwledydd pwerus o gwmpas Jwda. Mae ‘pedwar’ yn awgrym eu bod i bob cyfeiriad. View in passage

20Yna dyma’r ARGLWYDD yn dangos pedwar gof i mi. 21A dyma fi’n gofyn, “Beth mae’r rhain yn mynd i’w wneud?” A dyma fe’n ateb, “Y cyrn ydy’r gwledydd pwerus wnaeth yrru pobl Jwda ar chwâl, nes bod neb ar ôl. Ond mae’r gofaint wedi dod i ddychryn gelynion Jwda, a malu cyrn y gwledydd wnaeth ymosod arni a chwalu ei phobl i bob cyfeiriad.”