Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Datguddiad 4

Yr orsedd yn y nefoedd

1Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o mlaen i. A dyma’r llais rôn i wedi’i glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd fel sŵn utgorn), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i’n dangos i ti beth sy’n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.” 2Yn sydyn roeddwn i dan ddylanwad yr Ysbryd Glân, ac o mlaen i roeddwn i’n gweld gorsedd yn y nefoedd gyda rhywun yn eistedd arni. 3Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd. 4Roedd dau ddeg pedair gorsedd arall o’i chwmpas hefyd, gydag arweinydd ysbrydol yn eistedd ar bob un. Roedden nhw’n gwisgo dillad gwyn ac roedd coronau aur ar eu pennau. 5Roedd mellt a sŵn taranau yn dod o’r orsedd, ac o’i blaen roedd saith lamp yn llosgi, sef Ysbryd cyflawn perffaith Duw. 6Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o’r tu blaen a’r tu ôl. 7Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan. 8Roedd gan bob un o’r creaduriaid chwe adain wedi’u gorchuddio’n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw’n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd:

Notes for verses 1–83 entries

Cross-references

“Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd

ydy’r Arglwydd Dduw Hollalluog,

yr Un oedd, ac sydd,

ac sy’n mynd i ddod.”

Notes for verse 81 entry

Cross-references

  • Revelation 4:8 – Isaiah 6:3 (cf. Amos 3:13 ; Amos 4:13 ; Amos 5:14–16 ; Amos 9:5–6 ,Amos 9:15 ; Hosea 12:5 ; Nahum 3:5 ; Zechariah 10:3 ; Malachi 2:16 )

9Yna wrth i’r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i’r Un sy’n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy’n byw am byth bythoedd, 10roedd y dau ddeg pedwar arweinydd ysbrydol yn syrthio i lawr ar eu hwynebau ac yn ei addoli hefyd. Wrth osod eu coronau ar lawr o flaen yr orsedd roedden nhw’n dweud:

11“Ein Harglwydd a’n Duw!

Rwyt ti’n deilwng

o’r clod a’r anrhydedd a’r nerth.

Ti greodd bob peth,

ac mae popeth wedi’u creu yn bodoli

am mai dyna oeddet ti eisiau.”