Datguddiad 21
Y Jerwsalem newydd
1Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a’r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy. 2Dyma fi’n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi’i gwisgo’n hardd ar gyfer ei phriodas. 3Wedyn clywais lais o’r orsedd yn cyhoeddi’n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw’n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw. 4Bydd yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”
Notes for verses 1–42 entries
Cross-references
Revelation 21:1 – cyfeiriad at Isaiah 65:17 ; Isaiah 66:22
Revelation 21:3 – adlais o Ezekiel 37:27 ; Leviticus 26:11–12
5Dyma’r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud,
“Edrychwch! Dw i’n gwneud popeth yn newydd!”
Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i’n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”
6Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy’r Alffa a’r Omega, y Dechrau a’r Diwedd. Bydda i’n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i’r rhai hynny sy’n sychedig – yn rhad ac am ddim! 7Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr yn etifeddu’r pethau yma i gyd. Fi fydd eu Duw nhw, a byddan nhw’n blant i mi. 8Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy’n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy’n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy’n dweud celwydd – y llyn tân sy’n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna’r ‘ail farwolaeth’.”
Notes for verses 6–81 entry
Text notes
Revelation 21:6 Alffa a’r Omega: gw. nodyn ar 1:8. View in passage
9Yna dyma un o’r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o’r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.” 10Dyma’r angel yn fy nghodi dan ddylanwad yr Ysbryd a mynd â fi i fynydd mawr uchel. Dangosodd y ddinas sanctaidd i mi, Jerwsalem, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. 11Roedd ysblander Duw ei hun yn tywynnu ohoni; roedd hi’n disgleirio fel gem anhygoel o werthfawr – fel iasbis, yn glir fel grisial! 12Roedd anferth o wal uchel o’i chwmpas gyda deuddeg giât ynddi, a deuddeg angel yn gwarchod y giatiau. Roedd enwau deuddeg llwyth Israel wedi’u hysgrifennu ar y giatiau. 13Roedd tair giât ar yr ochr ddwyreiniol, tair i’r gogledd, tair i’r de a thair i’r gorllewin. 14Roedd gan wal y ddinas ddeuddeg carreg sylfaen, ac roedd enwau deuddeg cynrychiolydd yr Oen wedi’u hysgrifennu ar y rheiny.
15Roedd ffon fesur aur gan yr angel oedd yn siarad â mi, er mwyn iddo fesur y ddinas, ei giatiau a’i waliau. 16Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda’r ffon fesur cafodd ei bod hi’n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a’i huchder. 17Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch – yn ôl y mesur cyffredin. 18Roedd y wal wedi’i hadeiladu o faen iasbis, a’r ddinas wedi’i gwneud o aur pur, mor bur â gwydr. 19Roedd sylfeini waliau’r ddinas wedi’u haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a’r pedwerydd yn emrallt; 20onics oedd y pumed, carnelian y chweched, saffir melyn y seithfed, beryl yr wythfed, topas y nawfed, a crysopras y degfed; maen iasinth oedd yr unfed ar ddeg ac amethyst oedd y deuddegfed. 21Roedd giatiau’r ddinas wedi’u gwneud o berlau, pob giât unigol wedi’i gwneud o un perl mawr. Ac roedd heol fawr y ddinas yn aur oedd mor bur â gwydr clir!
22Doedd dim teml i’w gweld yn y ddinas, am fod yr Arglwydd Dduw Hollalluog a’r Oen yno, fel teml. 23Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a’r Oen fel lamp yn ei goleuo hi. 24Bydd y cenhedloedd yn byw yn ei golau, a bydd brenhinoedd y ddaear yn dod â’u holl gyfoeth i mewn iddi hi. 25Fydd ddim rhaid i’w giatiau gael eu cau o gwbl, achos fydd dim nos yno. 26Bydd holl ysblander a chyfoeth y cenhedloedd yn cael eu dwyn i mewn iddi. 27Ond fydd dim byd aflan yn mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy’n gwneud pethau ffiaidd neu’n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â’u henwau wedi’u hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.
Notes for verses 22–273 entries
Cross-references
Revelation 21:23 – cyfeiriad at Isaiah 60:19–20
Revelation 21:25 – 21:24-25 aralleiriad o Isaiah 60:3–5 ,Isaiah 60:11
Revelation 21:25 – cyfeiriad at Zechariah 14:7