Datguddiad 2
At eglwys Effesus
1“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Effesus:
‘Dyma beth mae’r un sy’n dal y saith seren yn ei law dde ac yn cerdded rhwng y saith canhwyllbren aur yn ei ddweud: 2Dw i’n gwybod am bopeth rwyt ti’n ei wneud. Rwyt ti’n gweithio’n galed ac wedi dal ati. Dw i’n gwybod dy fod ti ddim yn gallu diodde’r bobl ddrwg hynny sy’n honni eu bod nhw yn gynrychiolwyr personol i’r Meseia Iesu, ond sydd ddim go iawn. Rwyt ti wedi profi eu bod nhw’n dweud celwydd. 3Rwyt ti wedi dal ati ac wedi dioddef caledi er fy mwyn i, a heb flino.
4Ond mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Ti ddim yn fy ngharu i fel roeddet ti ar y cychwyn. 5Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti’n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd. 6Ond mae hyn o dy blaid di: Rwyt ti, fel finnau, yn casáu beth mae’r Nicolaiaid yn ei wneud.
Notes for verses 4–61 entry
Text notes
Revelation 2:6 Nicolaiaid Sect hereticaidd oedd yn cyfaddawdu gyda’r gymdeithas baganaidd o’u cwmpas, ac yn cymryd rhan yn y defodau paganaidd a’r addoli eilunod. View in passage
7Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr yn cael bwyta o goeden y bywyd sydd ym Mharadwys Duw.’
At eglwys Smyrna
8“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Smyrna:
‘Dyma beth mae’r Cyntaf a’r Olaf yn ei ddweud, yr un fuodd farw a dod yn ôl yn fyw: 9Dw i’n gwybod dy fod ti’n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti’n gyfoethog go iawn!) Dw i’n gwybod hefyd dy fod ti’n cael dy sarhau gan y rhai sy’n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw! 10Peidiwch bod ofn beth dych chi ar fin ei ddioddef. Galla i ddweud wrthoch chi fod y diafol yn mynd i brofi ffydd rhai ohonoch chi drwy eich taflu i’r carchar. Bydd pethau’n galed arnoch chi am gyfnod byr. Arhoswch yn ffyddlon i Dduw, hyd yn oed os bydd rhaid i chi farw. Wedyn cewch chi goron y bywyd yn wobr gen i.
11Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Fydd y rhai sy’n ennill y frwydr ddim yn cael unrhyw niwed gan beth sy’n cael ei alw yn “ail farwolaeth”.’
At eglwys Pergamus
12“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Pergamus:
‘Dyma beth mae’r un sydd â’r cleddyf miniog ganddo yn ei ddweud: 13Dw i’n gwybod dy fod ti’n byw yn y ddinas lle mae gorsedd Satan. Ond rwyt ti wedi aros yn ffyddlon i mi. Wnest ti ddim gwadu dy fod yn credu ynof fi, hyd yn oed pan gafodd Antipas ei ladd lle mae Satan yn byw. Roedd e’n ffyddlon, ac yn dweud wrth bawb amdana i.
Notes for verses 12–131 entry
Text notes
Revelation 2:13 gorsedd Satan: Pergamus oedd prif ganolfan addoli’r Ymerawdwr yn Asia. View in passage
14Er hynny, mae gen i bethau yn dy erbyn: Mae rhai pobl acw yn gwneud beth oedd Balaam yn ei ddysgu. Balaam ddysgodd Balac i ddenu pobl Israel i bechu. Gwnaeth iddyn nhw fwyta bwyd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau a phechu’n rhywiol. 15A’r un fath, mae yna rai ohonoch chi hefyd sy’n dilyn beth mae’r Nicolaiaid yn ei ddysgu. 16Tro dy gefn ar y pechodau hyn! Os wnei di ddim, bydda i’n dod yn sydyn ac yn ymladd yn eu herbyn nhw gyda’r cleddyf sydd yn fy ngheg.
Notes for verses 14–162 entries
Text notes
Revelation 2:15 Nicolaiaid: gw. y nodyn ar 2:6. View in passage
Cross-references
Revelation 2:14 – cyfeiriad at Numeri 22:5–25:3; 31:8,16
17Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi. Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr yn cael bwyta’r manna sydd wedi’i gadw o’r golwg. Bydda i hefyd yn rhoi carreg wen i bob un ohonyn nhw. Bydd enw newydd wedi’i ysgrifennu ar y garreg, a neb yn gwybod yr enw ond y sawl sy’n derbyn y garreg.’
Notes for verse 171 entry
Cross-references
Revelation 2:17 – gw. Exodus 16:14–15 ; Exodus 16:33–34 ; John 6:48–50
At eglwys Thyatira
18“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Thyatira:
‘Dyma beth mae Mab Duw yn ei ddweud, sef yr Un sydd â sbarc fel fflamau o dân yn ei lygaid, a’i draed yn gloywi fel efydd: 19Dw i’n gwybod am bopeth wyt ti’n ei wneud – am dy gariad, dy ffyddlondeb, dy wasanaeth a’th allu i ddal ati; a dw i’n gweld dy fod yn gwneud mwy o dda nawr nag oeddet ti ar y cychwyn.
20Er hynny, mae gen i rywbeth yn dy erbyn di: Rwyt ti’n goddef y wraig yna, y “Jesebel” sy’n galw’i hun yn broffwydes. Mae hi’n dysgu pethau sy’n camarwain y rhai sy’n fy ngwasanaethu i. Mae hi’n eu hannog nhw i bechu’n rhywiol a bwyta bwyd sydd wedi’i aberthu i eilun-dduwiau. 21Dw i wedi rhoi cyfle iddi hi droi cefn ar y drwg, ond mae hi’n gwrthod. 22Felly dw i’n mynd i wneud iddi ddioddef o afiechyd poenus, a bydd y rhai sy’n godinebu gyda hi yn dioddef hefyd os fyddan nhw ddim yn stopio gwneud beth mae hi’n ei ddweud. 23Bydda i’n lladd ei dilynwyr hi, ac wedyn bydd yr eglwysi yn gwybod mai fi ydy’r Un sy’n gweld beth sydd yng nghalonnau a meddyliau pobl. Bydd pob un ohonoch chi yn cael beth mae’n ei haeddu.
Notes for verses 20–232 entries
Text notes
Revelation 2:20 Jesebel: Pwy bynnag oedd y wraig yma, roedd yn cael yr enw Jesebel am ei bod mor ddrwg (gw. 1 Brenhinoedd 19:1,2; 21:1-26). View in passage
Cross-references
Revelation 2:23 – adlais o Jeremiah 17:10
24Am y gweddill ohonoch chi yn Thyatira, sef y rhai sydd heb dderbyn beth mae hi’n ei ddysgu (sef “cyfrinachau dirgel Satan”), wna i ddim rhoi dim mwy o bwysau arnoch chi. 25Ond daliwch afael yn beth sydd gynnoch chi nes i mi ddod yn ôl.
26Bydd y rhai sy’n ennill y frwydr, ac yn dilyn fy esiampl i i’r diwedd un, yn cael awdurdod dros y cenhedloedd –
27“Bydd yn teyrnasu arnyn nhw gyda theyrnwialen haearn;
ac yn eu malu’n ddarnau fel malu llestri pridd.”
Notes for verse 271 entry
Cross-references
Revelation 2:27 – Psalms 2:8–9 (LXX)
Bydd ganddyn nhw yr un awdurdod ag a ges i gan fy Nhad. 28A bydda i’n rhoi Seren y Bore iddyn nhw hefyd. 29Gwrandwch yn ofalus ar beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.’