Datguddiad 18
Cwymp Babilon
1Yna gwelais angel arall yn dod i lawr o’r nefoedd. Roedd ganddo awdurdod mawr, ac roedd ei ysblander yn goleuo’r ddaear. 2Cyhoeddodd yn uchel:
“Mae wedi syrthio! Mae Babilon fawr wedi syrthio!
Mae wedi troi’n gartref i gythreuliaid
ac yn gyrchfan i’r holl ysbrydion drwg
ac i bob aderyn aflan,
ac i bob anifail aflan a ffiaidd.
3Mae’r holl genhedloedd wedi yfed
gwin ei chwant anfoesol nwydwyllt.
Mae brenhinoedd y ddaear wedi cael rhyw gyda’r butain,
ac mae pobl fusnes y ddaear wedi ennill cyfoeth mawr
o’i moethusrwydd eithafol.”
Notes for verses 2–32 entries
Cross-references
Revelation 18:2 – adlais o Isaiah 21:9
Revelation 18:3 – adlais o Isaiah 23:17
4Wedyn clywais lais arall o’r nefoedd yn dweud:
“Fy mhobl, dewch allan o’r ddinas,
er mwyn i chi beidio pechu gyda hi.
Wedyn bydd y plâu fydd yn dod i’w chosbi hi
ddim yn eich cyffwrdd chi.
5Mae ei phechodau hi yn bentwr anferth i’r nefoedd,
ac mae Duw wedi cofio ei holl droseddau hi.
6Gwna iddi hi beth mae hi wedi’i wneud i eraill;
tala nôl iddi ddwywaith cymaint ag mae wedi’i wneud.
Rho iddi siâr ddwbl o’i ffisig ei hun!
7Yn lle’r ysblander a’r moethusrwydd gymerodd iddi’i hun,
rho’r un mesur o boen a gofid iddi hi.
Mae hi mor siŵr ohoni hi ei hun!
‘Brenhines ydw i, yn eistedd ar orsedd;
fydda i ddim yn weddw,
a fydd dim rhaid i mi alaru byth!’ meddai.
8Dyna’n union pam bydd y plâu yn ei tharo’n sydyn:
marwolaeth, galar a newyn.
Bydd yn cael ei dinistrio gan dân,
oherwydd mae’r Arglwydd Dduw sy’n ei barnu hi yn Dduw grymus!
Notes for verses 4–82 entries
Cross-references
Revelation 18:4 – adlais o Jeremiah 51:45 (cf. Isaiah 48:20 ; Isaiah 52:11 )
Revelation 18:6 – adlais o Jeremiah 50:29
9“Bydd brenhinoedd y ddaear gafodd ryw gyda’r butain a rhannu ei moethusrwydd, yn crio’n chwerw wrth weld y mwg yn codi pan gaiff ei llosgi. 10Byddan nhw’n sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae’n ei ddioddef, ac yn gweiddi:
Notes for verses 9–101 entry
Cross-references
Revelation 18:9, 10 – adlais o Isaiah 23:17
‘Och! Och! Ti ddinas fawr!
Babilon, y ddinas oedd â’r fath rym! –
Daeth dy ddiwedd mor sydyn!’
11“Bydd pobl fusnes y ddaear yn crio ac yn galaru drosti hi am fod neb yn prynu ei chargo ddim mwy – 12cargo o aur, arian, gemau gwerthfawr a pherlau, lliain main, defnydd porffor, sidan ac ysgarlad; nwyddau o goed Sitron, pethau wedi’u gwneud o ifori, a phob math o bethau eraill wedi’u gwneud o goed gwerthfawr, o efydd, haearn ac o farmor; 13sinamon a pherlysiau, arogldarth fel myrr a thus, hefyd gwin ac olew olewydd, blawd mân a gwenith; gwartheg, defaid, ceffylau a cherbydau; a chaethweision hefyd – ie, pobl yn cael eu gwerthu fel anifeiliaid.
14“Mae’r holl bethau roeddet ti’n dyheu amdanyn nhw wedi mynd! Dy holl gyfoeth a dy grandrwydd wedi diflannu! Fyddan nhw fyth yn dod nôl! 15Bydd y bobl fusnes gafodd arian mawr wrth werthu’r pethau hyn iddi, yn sefyll yn bell i ffwrdd, mewn dychryn wrth weld beth mae’n ei ddioddef. Byddan nhw’n crio ac yn galaru 16ac yn gweiddi:
‘Och! Och! Ti ddinas fawr!
wedi dy wisgo mewn defnydd hardd
a gwisg o borffor ac ysgarlad,
a’th addurno dy hun â thlysau o aur
a gemau gwerthfawr a pherlau!
17Mae’r fath gyfoeth wedi’i ddinistrio mor sydyn!’
“Bydd capteiniaid llongau a phawb sy’n teithio ar y môr, yn forwyr a phawb arall sy’n ennill eu bywoliaeth o’r môr, yn sefyll yn bell i ffwrdd. 18Wrth weld y mwg yn codi am ei bod hi’n llosgi, byddan nhw’n gweiddi, ‘Oes dinas arall debyg i’r ddinas fawr hon?’ 19Byddan nhw’n taflu pridd ar eu pennau, ac yn crio a galaru a gweiddi’n uchel:
Notes for verses 17–191 entry
Cross-references
Revelation 18:17 – adlais o Ezekiel 27:29–30
‘Och! Och! Ddinas fawr!
cafodd pawb oedd ganddyn nhw longau ar y môr
gyfoeth am ei bod hi mor gyfoethog!
Mae hi wedi’i dinistrio mor sydyn!’
20Bydd lawen, nefoedd, am beth sydd wedi digwydd iddi,
Byddwch lawen, chi bobl Dduw, a’i gynrychiolwyr a’i broffwydi –
Mae Duw wedi’i barnu hi am y ffordd wnaeth hi eich trin chi!”
21Wedyn dyma angel pwerus yn codi anferth o garreg fawr, tebyg i faen melin mawr, a’i thaflu i’r môr; ac meddai:
“Dyna sut fydd Babilon, y ddinas fawr,
yn cael ei bwrw i lawr yn ffyrnig –
fydd neb yn ei gweld byth mwy!
22Fydd dim sŵn telynau na cherddorion,
ffliwtiau nac utgyrn, i’w clywed ynot eto.
Neb sy’n dilyn unrhyw grefft i’w weld ynot eto.
Dim sŵn maen melin yn troi;
23Dim golau lamp i’w weld;
Dim sŵn gwledd briodas i’w glywed.
Ti oedd y ganolfan fusnes fwyaf dylanwadol yn y byd i gyd,
hudaist y cenhedloedd a’u harwain ar gyfeiliorn.
24Yn wir, Babilon wnaeth dywallt gwaed y proffwydi a phobl Dduw; a phawb yn y byd gafodd eu lladd ar gam.”