information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 87

Canmol Jerwsalem

Salm gan feibion Cora. Cân.

1Mae ei sylfeini ar y mynyddoedd sanctaidd!

2Mae’r ARGLWYDD yn caru dinas Seion

yn fwy nag unrhyw fan arall yn nhir Jacob.

3Mae pethau hyfryd yn cael eu dweud amdanat ti,

O ddinas Duw.

Saib

4Wrth sôn am yr Aifft a Babilon wrth y rhai sy’n fy nabod i

– Philistia, Tyrus, a dwyrain Affrica hefyd –

dywedir, “Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”

5A dyma fydd yn cael ei ddweud am Seion:

“Cafodd pob un o’r rhain eu geni yno!

Mae’r Duw Goruchaf ei hun yn ei gwneud hi’n ddiogel!”

6Bydd yr ARGLWYDD yn cofrestru’r cenhedloedd:

“Cafodd hwn a hwn ei eni yno.”

Notes for verses 4–61 entry

Text notes

  • Psalms 87:4 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh. Yr ardal i’r de o wlad yr Aifft, sef gogledd Swdan heddiw. View in passage

Saib

7Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud amdani:

“Mae ffynhonnell pob bendith ynot ti!”