information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 85

Gweddi am les y genedl

I’r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1O ARGLWYDD, ti wedi bod yn garedig wrth dy dir,

ac wedi rhoi llwyddiant i Jacob eto.

2Ti wedi symud euogrwydd dy bobl,

a maddau eu pechodau i gyd.

Saib

3Ti wedi tynnu dy lid yn ôl,

a throi cefn ar dy wylltineb.

4Tro ni’n ôl, O Dduw, ein hachubwr!

Rho heibio dy ddicter tuag aton ni.

5Wyt ti’n mynd i fod yn ddig gyda ni am byth?

Wyt ti’n mynd i aros yn wyllt am genedlaethau?

6Plîs, wnei di’n hadfywio ni unwaith eto,

i dy bobl gael dathlu beth wnest ti!

7O ARGLWYDD, dangos dy gariad ffyddlon i ni.

Plîs, achub ni!

8Dw i’n mynd i wrando beth sydd gan Dduw i’w ddweud.

Ydy wir! Mae’r ARGLWYDD yn addo heddwch

i’r rhai sy’n ei ddilyn yn ffyddlon –

ond rhaid iddyn nhw beidio troi’n ôl at eu ffolineb!

9Mae e’n barod iawn i achub y rhai sy’n ei ddilyn e;

wedyn bydd ei ysblander i’w weld yn ein tir eto.

10Bydd cariad a gwirionedd yn dod at ei gilydd;

bydd cyfiawnder a heddwch yn cusanu.

11Bydd gwirionedd yn tarddu o’r tir,

a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd.

12Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi pethau da i ni;

a bydd y tir yn rhoi ei gnydau.

13Bydd cyfiawnder yn mynd o’i flaen

ac yn paratoi’r ffordd iddo.