Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 47

Y Brenin sy’n rheoli popeth

I’r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.

1Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo!

Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!

2Mae’r ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i’w ryfeddu,

ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.

3Mae’n gwneud i bobloedd ymostwng i ni,

ni sy’n eu rheoli nhw.

4Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni –

tir i Jacob, y bobl mae wedi’u caru, ymfalchïo ynddo.

Saib

5Mae Duw wedi esgyn i’w orsedd, a’r dyrfa’n gweiddi’n llawen.

Aeth yr ARGLWYDD i fyny, a’r corn hwrdd yn seinio!

6Canwch fawl i Dduw, canwch!

canwch fawl i’n brenin ni, canwch!

7Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;

Canwch gân hyfryd iddo!

8Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd.

Mae e’n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.

9Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu

gyda phobl Duw Abraham.

Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr y byd;

mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd.

Notes for verses 5–92 entries

Text notes

  • Psalms 47:5 corn hwrdd Hebraeg, shoffar. View in passage

  • Psalms 47:9 lywodraethwyr Hebraeg, “tarianau”, yn cynrychioli’r llywodraethwyr oedd i amddiffyn y bobl. View in passage