Salm 29
Llais yr ARGLWYDD yn y storm
Salm Dafydd.
1Dewch, angylion, Cyhoeddwch!
Cyhoeddwch mor wych ac mor gryf ydy’r ARGLWYDD!
2Cyhoeddwch mor wych ydy ei enw da!
Plygwch i addoli’r ARGLWYDD
sydd mor hardd yn ei gysegr.
3Mae llais yr ARGLWYDD i’w glywed uwchben y dŵr –
sŵn y Duw gwych yn taranu.
Mae’r ARGLWYDD yn taranu uwchben y dyfroedd mawr.
4Mae llais yr ARGLWYDD yn rymus.
Mae llais yr ARGLWYDD yn urddasol.
5Mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio’r cedrwydd;
mae e’n dryllio coed cedrwydd Libanus.
6Mae’n gwneud i Libanus brancio fel llo;
a Sirion fel ych gwyllt ifanc.
Notes for verses 5–61 entry
Text notes
Psalms 29:6 Sirion Yr enw Phoenicaidd ar Fynydd Hermon – gw. Deuteronomium 3:9. View in passage
7Mae llais yr ARGLWYDD fel mellt yn fflachio.
8Mae llais yr ARGLWYDD yn ysgwyd yr anialwch;
mae’r ARGLWYDD yn ysgwyd anialwch Cadesh.
9Mae llais yr ARGLWYDD yn plygu’r coed mawr,
ac yn tynnu’r dail oddi ar y fforestydd.
Ac yn ei deml mae pawb yn gweiddi, “Rwyt ti’n wych!”
10Mae’r ARGLWYDD ar ei orsedd uwchben y llifogydd.
Mae’r ARGLWYDD yn Frenin ar ei orsedd am byth.
11Mae’r ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.
Mae’r ARGLWYDD yn rhoi heddwch i’w bobl.
Notes for verses 10–111 entry
Text notes
Psalms 29:10 llifogydd Symbol o’r anhrefn sy’n bygwth y byd. View in passage