information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 150

Molwch yr ARGLWYDD!

1Haleliwia!

Molwch Dduw yn ei deml.

Molwch e yn ei nefoedd gadarn.

2Molwch e am wneud pethau mor fawr.

Molwch e am ei fod mor wych.

3Molwch e drwy chwythu’r corn hwrdd.

Molwch e gyda’r nabl a’r delyn.

4Molwch e gyda drwm a dawns.

Molwch e gyda llinynnau a ffliwt.

5Molwch e gyda sŵn symbalau.

Molwch e gyda symbalau’n atseinio.

Notes for verses 3–51 entry

Text notes

6Boed i bopeth sy’n anadlu foli’r ARGLWYDD.

Haleliwia!