No themes applied yet
Emyn o fawl
1Haleliwia!
Canwch gân newydd iʼr ARGLWYDD,
Rhowch foliant iddo yn y gynulleidfa oʼi bobl ffyddlon.
2Boed i Israel lawenhau yn ei Chrëwr!
Boed i blant Seion gael eu gwefreiddio gan eu Brenin!
3Boed iddyn nhw ei addoli gyda dawns;
ac ar y drwm aʼr delyn fach.
4Achos maeʼr ARGLWYDD wrth ei fodd gydaʼi bobl!
Maeʼn gwisgoʼr rhai syʼn cael eu gorthrymu gyda buddugoliaeth.
5Boed iʼr rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon ddathlu,
a gweiddiʼn llawen wrth orffwys ar eu clustogau.
6Canu mawl i Dduw
gyda chleddyfau miniog yn eu dwylo,
7yn barod i gosbiʼr cenhedloedd,
a dial ar y bobloedd.
8Gan rwymoʼu brenhinoedd â chadwyni,
aʼu pobl bwysig mewn hualau haearn.
9Dymaʼr ddedfryd gafodd ei chyhoeddi arnyn nhw;
aʼr fraint fydd iʼr rhai sydd wedi profi ei gariad ffyddlon.
Haleliwia!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015