information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 146

Moli’r Duw sy’n achub

1Haleliwia!

Mola’r ARGLWYDD, meddwn i wrthof fy hun!

2Dw i’n mynd i foli’r ARGLWYDD ar hyd fy mywyd,

a chanu mawl i’m Duw tra dw i’n bodoli!

3Paid trystio’r rhai sy’n teyrnasu –

dyn meidrol sydd ddim yn gallu achub.

4Mae’r anadl yn mynd allan ohono,

ac mae’n mynd yn ôl i’r pridd;

a’r diwrnod hwnnw mae ei holl bolisïau yn dod i ben!

5Mae’r un mae Duw Jacob yn ei helpu wedi’i fendithio’n fawr,

yr un sy’n dibynnu ar yr ARGLWYDD ei Dduw –

6y Duw a wnaeth y nefoedd, y ddaear,

y môr a phopeth sydd ynddyn nhw.

Mae e bob amser yn cadw ei air,

7yn rhoi cyfiawnder i’r rhai sy’n cael eu gorthrymu,

a bwyd i’r rhai newynog.

Mae’r ARGLWYDD yn gollwng carcharorion yn rhydd.

8Mae’r ARGLWYDD yn rhoi eu golwg i bobl ddall.

Mae’r ARGLWYDD yn gwneud i bawb sydd wedi’u plygu drosodd sefyll yn syth.

Mae’r ARGLWYDD yn caru’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn.

9Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y mewnfudwyr

ac yn cynnal y plant amddifad a’r gweddwon.

Ond mae e’n gwneud i’r rhai drwg golli eu ffordd.

10Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu am byth;

dy Dduw di, Seion, ar hyd y cenedlaethau.

Haleliwia!