information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 137

Cân o alar yn y gaethglud

1Wrth afonydd Babilon,

dyma ni’n eistedd ac yn wylo

wrth gofio am Seion.

2Dyma ni’n hongian ein telynau

ar y coed poplys yno.

3Roedd y rhai oedd yn ein dal ni’n gaeth eisiau i ni ganu,

a’n poenydwyr yn ein piwsio i’w difyrru:

“Canwch un o ganeuon Seion i ni!”

4Sut allen ni ganu caneuon yr ARGLWYDD

ar dir estron?

5Os anghofia i di, Jerwsalem,

boed i’m llaw dde gael ei pharlysu.

6Boed i’m tafod lynu wrth dop fy ngheg

petawn i’n anghofio amdanat ti,

a phetai Jerwsalem yn ddim pwysicach

na phopeth arall sy’n rhoi pleser i mi.

7Cofia, O ARGLWYDD, beth wnaeth pobl Edom

y diwrnod hwnnw pan syrthiodd Jerwsalem.

Roedden nhw’n gweiddi, “Chwalwch hi!

Chwalwch hi i’w sylfeini!”

8Babilon hardd, byddi dithau’n cael dy ddinistrio!

Bydd yr un fydd yn talu’n ôl i ti

ac yn dy drin fel gwnest ti’n trin ni,

yn cael ei fendithio’n fawr!

9Bydd yr un fydd yn gafael yn dy blant di

ac yn eu hyrddio nhw yn erbyn y creigiau

yn cael ei fendithio’n fawr!

Notes for verses 7–91 entry

Cross-references