information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 134

Galwad i foli Duw

Cân yr orymdaith.

1Dewch! Bendithiwch yr ARGLWYDD,

bawb ohonoch chi sy’n gwasanaethu’r ARGLWYDD,

ac yn sefyll drwy’r nos yn nheml yr ARGLWYDD.

2Codwch eich dwylo, a’u hestyn allan tua’r cysegr!

Bendithiwch yr ARGLWYDD!

3Boed i’r ARGLWYDD, sydd wedi creu’r nefoedd a’r ddaear,

eich bendithio chi o Seion!