information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 116

Rhywun wedi’i achub rhag marw yn moli Duw

1Dw i wir yn caru’r ARGLWYDD

am ei fod yn gwrando ar fy ngweddi.

2Mae e’n troi i wrando arna i

a dw i’n mynd i ddal ati i alw arno bob amser.

3Roedd rhaffau marwolaeth wedi’u rhwymo amdana i;

roedd ofn y bedd wedi gafael ynof fi.

Rôn i mewn helbul! Roedd fy sefyllfa’n druenus!

4A dyma fi’n galw ar yr ARGLWYDD,

“O ARGLWYDD, plîs, achub fi!”

5Mae’r ARGLWYDD mor hael a charedig;

ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.

6Mae’r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;

achubodd fi pan oeddwn i’n teimlo mor isel.

7Ond bellach dw i’n gallu ymlacio eto.

Mae’r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!

8Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,

cymryd y dagrau i ffwrdd,

a’m cadw i rhag baglu.

9Dw i’n mynd i fyw’n ffyddlon i’r ARGLWYDD

ar dir y byw.

10Rôn i’n credu ynddo pan ddwedais,

“Dw i’n diodde’n ofnadwy,”

11ond yna dweud mewn panig,

“Alla i ddim trystio unrhyw un.”

12Sut alla i dalu nôl i’r ARGLWYDD

am fod mor dda tuag ata i?

13Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,

a dw i am alw ar enw’r ARGLWYDD.

14Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD

o flaen ei bobl.

15Mae bywyd pob un o’i bobl ffyddlon

yn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

16Plîs, ARGLWYDD,

dw i wir yn un o dy weision

ac yn blentyn i dy forwyn.

Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.

17Dw i’n cyflwyno offrwm i ddiolch i ti

ac yn galw ar enw’r ARGLWYDD.

18Dw i am gadw fy addewidion i’r ARGLWYDD

o flaen y bobl sy’n ei addoli

19yn ei deml yn Jerwsalem.

Notes for verses 15–191 entry

Text notes

  • Psalms 116:15 Hebraeg, “marwolaeth”. Gellid cyfieithu’r adnod, “Mae marwolaeth pob un o’i bobl ffyddlon yn gostus yng ngolwg yr ARGLWYDD” (cf. Salm 72:14). View in passage

Haleliwia!