information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 110

Yr ARGLWYDD a’r brenin ddewisodd

Salm gan Dafydd.

1Dwedodd yr ARGLWYDD wrth fy arglwydd,

“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd

nes i mi wneud dy elynion yn stôl dan dy draed di.”

2Bydd yr ARGLWYDD yn estyn dy deyrnas o Seion,

a byddi’n rheoli’r gelynion sydd o dy gwmpas!

3Mae dy bobl yn barod i dy ddilyn i’r frwydr.

Ar y bryniau sanctaidd

bydd byddin ifanc yn dod atat

fel gwlith yn codi o groth y wawr.

4Mae’r ARGLWYDD wedi tyngu llw,

a fydd e ddim yn torri ei air,

“Rwyt ti’n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.”

5Mae’r ARGLWYDD, sydd ar dy ochr dde di,

yn sathru brenhinoedd ar y diwrnod pan mae’n ddig.

6Mae’n cosbi’r cenhedloedd,

yn pentyrru’r cyrff marw

ac yn sathru eu harweinwyr drwy’r byd i gyd.

7Ond bydd e’n yfed o’r nant ar ochr y ffordd,

ac yn codi ar ei draed yn fuddugol.