information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 108

Gweddi am help yn erbyn y gelyn

(Salm 57:7-11; 60:5-12)

Cân. Salm Dafydd.

1Dw i’n gwbl benderfynol, O Dduw.

Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti.

2Deffro, nabl a thelyn!

Dw i am ddeffro’r wawr gyda’m cân.

3Dw i’n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb.

Dw i’n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl.

4Mae dy gariad di’n uwch na’r nefoedd,

a dy ffyddlondeb di’n uwch na’r cymylau!

5Dangos dy hun yn uwch na’r nefoedd, O Dduw,

i dy ysblander gael ei weld drwy’r byd i gyd!

6Defnyddia dy gryfder o’n plaid, ac ateb ni

er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.

7Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:

“Dw i’n mynd i fwynhau rhannu Sichem,

a mesur dyffryn Swccoth.

8Fi sydd biau Gilead, a Manasse hefyd;

Effraim ydy fy helmed i a Jwda ydy’r deyrnwialen.

9Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.

Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,

ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”

10Pwy sy’n gallu mynd â fi i’r ddinas ddiogel?

Pwy sy’n gallu fy arwain i Edom?

11Onid ti, O Dduw?

Ond rwyt wedi’n gwrthod ni!

Wyt ti ddim am fynd allan gyda’n byddin, O Dduw?

12Plîs, helpa ni i wynebu’r gelyn,

achos dydy help dynol yn dda i ddim.

13Gyda Duw gallwn wneud pethau mawr –

bydd e’n sathru ein gelynion dan draed!