Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Salm 1

LLYFR UN

(Salmau 1–41)

Bendith Duw

1Mae’r un sy’n gwrthod gwrando ar gyngor pobl ddrwg

wedi’i fendithio’n fawr;

yr un sydd ddim yn cadw cwmni pechaduriaid,

nac yn eistedd gyda’r rhai

sy’n gwneud dim byd ond dilorni pobl eraill;

2yr un sydd wrth ei fodd

yn gwneud beth mae’r ARGLWYDD eisiau,

ac yn myfyrio ar y pethau mae’n eu dysgu ddydd a nos.

3Bydd fel coeden wedi’i phlannu wrth ffrydiau o ddŵr,

yn dwyn ffrwyth yn ei thymor,

a’i dail byth yn gwywo.

Beth bynnag mae’n ei wneud, bydd yn llwyddo.

Notes for verses 1–32 entries

Text notes

  • Psalms 1:2 y pethau mae’n eu dysgu Hebraeg, Torâ, sef ‘y Gyfraith’, neu’r cyfarwyddiadau roddodd Duw i Moses. View in passage

Cross-references

  • Psalms 1:3 – Jeremiah 17:7 ,Jeremiah 17:8

4Ond fydd hi ddim felly ar y rhai drwg!

Byddan nhw fel us

yn cael eu chwythu i ffwrdd gan y gwynt.

5Fydd y rhai drwg ddim yn gallu gwrthsefyll y farn.

Fydd pechaduriaid ddim yn cael sefyll

gyda’r dyrfa o rai cyfiawn.

6Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am y rhai sy’n ei ddilyn,

ond bydd y rhai drwg yn cael eu difa.