information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Diarhebion 31

Geiriau Lemwel – Cyngor i frenin

1Y pethau ddysgodd Lemwel, brenin Massa, gan ei fam:

Notes for verse 11 entry

Text notes

  • Proverbs 31:1 Massa Ardal yng ngogledd Arabia – gw. Genesis 25:14; 1 Cronicl 1:30. View in passage

2O fy mab!

O blentyn annwyl fy nghroth,

y mab wnes i ei gyflwyno i Dduw.

3Paid gwastraffu dy nerth i gyd ar ferched,

a rhoi dy holl egni i’r rhai sy’n dinistrio brenhinoedd.

4O Lemwel, ddylai brenhinoedd ddim yfed gwin,

ac arweinwyr ddim ysu am gwrw,

5rhag iddyn nhw yfed ac anghofio’r deddfau,

a sathru ar hawliau’r tlodion.

6Rhowch ddiod feddwol i’r rhai sy’n marw

a gwin i’r un sy’n diodde’n chwerw.

7Gadewch iddyn nhw yfed i anghofio’u tlodi,

a fydd dim rhaid iddyn nhw gofio’u trafferthion.

8Siarad ar ran y bobl hynny sydd heb lais,

ac amddiffyn y rhai sydd wedi colli popeth.

9Coda dy lais o’u plaid nhw, barna’n gyfiawn,

a dadlau dros hawliau’r rhai mewn angen a’r tlawd.

Gwraig dda

10Pwy sy’n gallu dod o hyd i wraig dda?

Mae hi’n fwy gwerthfawr na gemau.

11Mae ei gŵr yn ymddiried ynddi’n llwyr,

ac ar ei ennill bob amser.

12Mae hi’n dda iddo bob amser,

a byth yn gwneud drwg.

13Mae hi’n edrych am wlân a defnydd arall

ac yn mwynhau gweu a gwnïo.

14Mae hi fel fflyd o longau masnach

yn cario bwyd o wledydd pell.

15Mae hi’n codi yn yr oriau mân

i baratoi bwyd i’w theulu,

a rhoi gwaith i’w morynion.

16Mae hi’n meddwl yn ofalus cyn prynu cae,

a defnyddio’i harian i blannu gwinllan ynddo.

17Mae hi’n bwrw iddi’n frwd,

ac yn gweithio’n galed.

18Mae hi’n gwneud yn siŵr fod ei busnes yn llwyddo;

dydy ei lamp ddim yn diffodd drwy’r nos.

19Mae hi’n brysur yn nyddu â’i dwylo,

a’i bysedd yn trin y gwlân.

20Mae hi’n rhoi yn hael i’r tlodion,

ac yn helpu pwy bynnag sydd mewn angen.

21Dydy hi ddim yn poeni am ei theulu pan ddaw eira,

am fod digon o ddillad cynnes ganddyn nhw.

22Mae hi’n gwneud cwiltiau i’r gwely,

a dillad o liain main drud.

23Mae ei gŵr yn adnabyddus ar gyngor y ddinas,

ac yn eistedd gyda’r arweinwyr i gyd.

24Mae hi’n gwneud defnydd i’w werthu,

a dillad i’r masnachwyr eu prynu.

25Mae hi’n wraig o gymeriad cryf ac urddasol,

ac yn edrych ymlaen i’r dyfodol yn hyderus.

26Mae hi’n siarad yn ddoeth bob amser,

ac yn garedig wrth ddysgu eraill.

27Mae hi’n gofalu am y teulu i gyd,

a dydy hi byth yn segur.

28Mae ei phlant yn tyfu ac yn meddwl y byd ohoni;

ac mae ei gŵr yn ei chanmol i’r cymylau,

29“Mae yna lawer o ferched da i’w cael,

ond rwyt ti’n well na nhw i gyd.”

30Mae prydferthwch yn gallu twyllo,

a harddwch yn arwynebol.

Gwraig sy’n parchu’r ARGLWYDD

sydd yn haeddu cael ei chanmol.

31Rhowch glod iddi am beth mae wedi’i gyflawni,

a boed i arweinwyr y ddinas ei chanmol am ei gwaith.