information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Diarhebion 22

1Mae enw da yn well na chyfoeth mawr,

a charedigrwydd yn well nag arian ac aur.

2Mae un peth sy’n wir am y cyfoethog a’r tlawd:

yr ARGLWYDD wnaeth greu’r ddau ohonyn nhw.

3Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi;

ond y gwirion yn bwrw yn ei flaen ac yn gorfod talu’r pris.

4Mae gostyngeiddrwydd a pharch at yr ARGLWYDD

yn arwain i gyfoeth, anrhydedd a bywyd.

5Mae drain a maglau ar lwybr pobl sy’n twyllo,

ond mae’r person sy’n ofalus yn cadw draw oddi wrthyn nhw.

6Dysga blentyn y ffordd orau i fyw,

a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.

7Fel mae’r cyfoethog yn rheoli’r tlawd,

mae’r un sydd mewn dyled yn gaethwas i’r benthyciwr.

8Bydd y rhai sy’n hau drygioni yn medi helyntion,

a bydd eu gwialen greulon yn cael ei thorri.

9Bydd person hael yn cael ei fendithio

am rannu ei fwyd gyda’r tlawd.

10Taflwch allan yr un sy’n creu helynt, a bydd y cweryla’n peidio,

bydd y ffraeo a’r sarhau yn stopio.

11Pwy bynnag sy’n ddidwyll a’i eiriau’n garedig,

bydd yn ffrindiau gyda’r brenin.

12Mae’r ARGLWYDD yn gofalu am yr un sy’n gwybod y gwir,

ond mae’n tanseilio beth mae’r twyllwr yn ei ddweud.

13Mae’r diogyn yn dweud, “Mae yna lew yna!

Mae’n beryg bywyd i fynd allan i’r stryd.”

14Mae fflyrtian y wraig anfoesol fel pwll dwfn;

mae’r rhai sy’n digio’r ARGLWYDD yn syrthio iddo.

15Pan mae ffolineb wedi cael gafael ar feddwl person ifanc,

bydd gwialen disgyblaeth yn cael gwared ag e.

16Dydy gwneud arian drwy gam-drin pobl dlawd,

neu roi anrhegion i’r cyfoethog, yn ddim byd ond colled!

Y Tri Deg Cyngor Doeth

17Gwranda’n astud ar beth mae’r doethion wedi’i ddweud,

a meddylia am y pethau dw i’n eu dysgu i ti.

18Mae’n beth da i’r rhain wreiddio’n ddwfn ynot ti

ac iddyn nhw fod ar flaen dy dafod bob amser.

19Dw i am eu rhannu nhw hefo ti heddiw – ie, ti –

er mwyn i ti drystio’r ARGLWYDD.

20Dw i wedi’u hysgrifennu nhw i lawr –

“Y Tri Deg Cyngor Doeth”,

21i ti ddysgu’r gwir, a beth sy’n iawn,

a mynd â’r atebion iawn i’r rhai wnaeth dy anfon di.

22Paid dwyn oddi ar y tlawd, achos maen nhw’n dlawd,

na chymryd mantais o bobl mewn angen yn y llys.

23Bydd yr ARGLWYDD yn sefyll hefo nhw,

ac yn gorthrymu’r rhai sy’n eu gorthrymu nhw.

24Paid gwneud ffrindiau gyda rhywun piwis,

na chadw cwmni rhywun sydd â thymer wyllt,

25rhag i ti hefyd droi felly,

a methu dianc.

26Paid bod yn rhy barod i gytuno

i dalu dyledion rhywun arall;

27Os na fyddi di’n gallu talu

byddi’n colli popeth, hyd yn oed dy wely!

Notes for verses 26–271 entry

Cross-references

28Paid symud yr hen ffiniau

gafodd eu gosod gan dy hynafiaid.

29Pan weli di rywun sy’n fedrus yn ei waith –

bydd hwnnw’n gwasanaethu brenhinoedd,

nid pobl does neb wedi clywed amdanyn nhw.