Diarhebion 20
1Mae gwin yn gwawdio, a chwrw yn creu helynt;
dydy’r rhai sy’n meddwi ddim yn ddoeth.
2Mae brenin sy’n bygwth fel llew yn rhuo;
mae’r sawl sy’n ei wylltio yn mentro’i fywyd.
3Mae gwrthod ffraeo yn beth call i’w wneud,
gall unrhyw ffŵl godi helynt.
4Os nad ydy’r dyn diog yn aredig yn y gwanwyn,
pan ddaw’r cynhaeaf, fydd e’n cael dim byd.
5Mae bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn,
ond gall person deallus ei ddwyn i’r golwg.
6Mae llawer o bobl yn honni bod yn ffrindiau triw,
ond pwy allwch chi ei drystio go iawn?
7Pan mae rhywun yn byw bywyd cyfiawn a gonest,
mae ei blant wedi’u bendithio’n fawr.
8Mae brenin sy’n eistedd ar yr orsedd i farnu
yn gallu gwahaniaethu rhwng drwg a da.
9Oes unrhyw un yn gallu dweud,
“Dw i wedi cadw fy nghalon yn lân;
dw i’n hollol lân a heb bechod”?
10Mae twyllo wrth bwyso a mesur
yn rhywbeth sy’n gas gan yr ARGLWYDD.
11Mae’r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn
yn dangos ydy e’n gymeriad glân a gonest ai peidio.
12Y glust sy’n clywed a’r llygad sy’n gweld –
yr ARGLWYDD wnaeth y ddwy.
13Paid bod yn rhy hoff o dy gwsg, rhag i ti fynd yn dlawd;
cadw’n effro, a bydd gen ti ddigon i’w fwyta.
14Mae’r prynwr yn dadlau, “Dydy e ddim yn werth rhyw lawer,”
ond yna’n mynd i ffwrdd ac yn brolio’i hun am gael bargen.
15Mae digonedd o aur i’w gael, a pherlau hefyd;
mae geiriau doeth fel gem werthfawr.
16Cymer ei wisg, gan ei fod wedi gwarantu benthyciad rhywun;
cadw hi’n warant os gwnaeth hynny dros bobl ddieithr.
17Falle fod bwyd sydd wedi’i ddwyn yn flasus,
ond bydd dy geg yn llawn graean yn y diwedd.
18Mae cyngor da yn gwneud i gynlluniau lwyddo;
ewch i ryfel gyda strategaeth glir.
19Mae’r un sy’n hel clecs yn methu cadw cyfrinach;
paid cael dim i’w wneud â’r llac ei dafod.
Notes for verse 191 entry
Cross-references
Proverbs 20:19 – Leviticus 19:16
20Os ydy rhywun yn melltithio’i dad neu ei fam,
bydd ei lamp yn diffodd mewn tywyllwch dudew.
21Pan mae rhywun yn derbyn etifeddiaeth yn rhy hawdd,
fydd dim bendith yn y diwedd.
22Paid dweud, “Bydda i’n talu’r pwyth yn ôl!”
Disgwyl i’r ARGLWYDD achub dy gam di.
23Mae twyllo wrth bwyso nwyddau yn gas gan yr ARGLWYDD;
dydy clorian dwyllodrus ddim yn dda.
24Yr ARGLWYDD sy’n trefnu’r ffordd mae rhywun yn mynd;
sut all unrhyw un wybod beth sydd o’i flaen?
25Mae’n gamgymeriad i rywun gyflwyno rhodd i Dduw yn fyrbwyll,
a dim ond meddwl wedyn beth wnaeth e addo ei wneud.
26Mae brenin doeth yn gwahanu’r drwg oddi wrth y da,
ac yna’n troi’r olwyn sy’n eu dyrnu nhw.
27Mae’r gydwybod fel lamp gan yr ARGLWYDD,
yn chwilio’n ddwfn beth sydd yn y galon.
28Cariad a ffyddlondeb sy’n amddiffyn y brenin,
a’i gariad e sy’n ei gadw ar yr orsedd.
Notes for verse 281 entry
Cross-references
Proverbs 20:28 – Psalms 89:24
29Mae pobl yn edmygu cryfder dynion ifanc,
ond gwallt gwyn sy’n rhoi urddas i bobl mewn oed.
30Mae dioddefaint a chleisiau yn cael gwared â drwg,
ac yn delio gyda’r person y tu mewn.