information icon
Updated: 23 October 2026

Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Diarhebion 2

Manteision bod yn ddoeth

1Fy mab, os byddi di’n derbyn beth dw i’n ddweud,

ac yn trysori’r hyn dw i’n ei orchymyn;

2os gwnei di wrando’n astud ar ddoethineb,

a cheisio deall yn iawn;

3os byddi di’n gofyn am gyngor doeth,

ac yn awyddus i ddeall yn iawn;

4os byddi’n ceisio doethineb fel arian

ac yn chwilio amdani fel am drysor wedi’i guddio,

5yna byddi di’n deall sut i barchu’r ARGLWYDD

a byddi’n dod i wybod am Dduw.

6Achos yr ARGLWYDD sy’n rhoi doethineb;

beth mae e’n ddweud sy’n rhoi gwybodaeth a deall.

7Mae’n rhoi llwyddiant i’r un sy’n gwneud beth sy’n iawn –

ac mae fel tarian i amddiffyn y sawl sy’n byw yn onest.

8Mae’n gwneud yn siŵr fod cyfiawnder yn llwyddo,

ac mae’n gwarchod y rhai sy’n ffyddlon iddo.

9Byddi’n deall beth sy’n iawn, yn gytbwys, ac yn deg

– ie, popeth sy’n dda.

10Pan fydd doethineb yn rheoli dy ffordd o feddwl

a gwybod beth sydd orau yn dy gofleidio di,

11bydd y ffordd wnei di ei dilyn yn saff,

a bydd deall yn dy warchod.

12Bydd yn dy gadw di rhag dilyn y drwg,

a rhag y bobl hynny sy’n twyllo o hyd –

13y rhai sydd wedi troi cefn ar ffyrdd gonest

i ddilyn llwybrau tywyll.

14Maen nhw wrth eu boddau’n gwneud drwg

ac yn mwynhau twyllo –

15pobl anonest ydyn nhw,

ac maen nhw’n dilyn ffyrdd troellog.

16Bydd yn dy achub di rhag y wraig anfoesol,

yr un lac ei moesau sy’n fflyrtian drwy’r adeg,

17yr un sydd wedi gadael ei gŵr,

a diystyru’r addewidion wnaeth hi o flaen Duw.

18Mae ei thŷ hi yn llwybr llithrig i farwolaeth;

mae ei dilyn hi yn arwain i fyd y meirw.

19Does neb sy’n mynd ati hi’n gallu troi yn ôl,

a chael eu hunain ar lwybr bywyd unwaith eto.

Notes for verses 16–191 entry

Text notes

  • Proverbs 2:18 i fyd y meirw Hebraeg, “cysgodion”. Cyfeiriad at y meirw yn Sheol – gw. Job 26:5 a Salm 88:10. View in passage

20Dilyn di ffordd y rhai sy’n byw yn dda,

cadw at lwybrau’r rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn.

21Y rhai sy’n gwneud beth sy’n iawn fydd yn byw yn y tir,

y rhai sy’n byw’n onest fydd yn cael aros yno.

22Bydd pobl ddrwg yn cael eu gyrru i ffwrdd,

a’r rhai sy’n twyllo yn cael eu rhwygo o’r tir.