Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Numeri 2

Trefn y Llwythau yn y gwersyll

1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu’r Tabernacl. Mae pawb i wersylla dan fflag eu llwyth eu hunain. 3-9Ar yr ochr ddwyreiniol, bydd adrannau’r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:

LlwythArweinyddNifer
JwdaNachshon fab Aminadab74,600
IssacharNethanel fab Tswár54,400
SabulonEliab fab Chelon57,400
Cyfanswm:186,400

Y milwyr ar ochr Jwda i’r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.

10-16I’r de, bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:

LlwythArweinyddNifer
ReubenEliswr fab Shedeŵr46,500
SimeonShelwmiel fab Swrishadai59,300
GadEliasaff fab Dewel45,650
Cyfanswm:151,450
Notes for verses 10–161 entry

Text notes

  • Numbers 2:10–16 gw. Numeri 1:14, a llawer o lawysgrifau Hebraeg. View in passage

Y milwyr yma ar ochr Reuben i’r gwersyll fydd yn ail i symud allan.

17Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda phabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae’r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.

18-24Ar yr ochr orllewinol, bydd adrannau’r tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:

LlwythArweinyddNifer
EffraimElishama fab Amihwd40,500
ManasseGamaliel fab Pedatswr32,200
BenjaminAbidan fab Gideoni35,400
Cyfanswm:108,100

Y milwyr yma ar ochr Effraim i’r gwersyll fydd yn drydydd i symud allan.

25-31I’r gogledd, bydd adrannau’r tri llwyth olaf yn gwersylla dan eu fflag:

LlwythArweinyddNifer
DanAchieser fab Amishadai62,700
AsherPagiel fab Ochran41,500
NafftaliAchira fab Enan53,400
Cyfanswm:157,600

Y milwyr yma ar ochr Dan i’r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.

32Dyma’r rhai gafodd eu cyfrif o bobl Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd oedd 603,550. 33Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr ARGLWYDD wedi’i orchymyn i Moses. 34Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr ARGLWYDD wedi’i ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.