Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Nehemeia 7

Trefniadau diogelwch Jerwsalem

1Roedd y wal wedi’i gorffen, drysau’r giatiau wedi’u gosod yn eu lle, a gofalwyr y giatiau, cantorion a Lefiaid wedi’u penodi. 2A dyma fi’n apwyntio Chanani (perthynas i mi), a Chananeia, pennaeth y gaer, i fod yn gyfrifol am Jerwsalem. Roedd Chananeia’n ddyn y gallwn ei drystio, ac yn fwy duwiol na’r rhan fwya o bobl. 3Dwedais wrthyn nhw, “Ddylai giatiau’r ddinas ddim bod ar agor pan mae’r haul yn boeth ganol dydd. Dylen nhw aros dan glo nes bod y gofalwyr yn ôl ar ddyletswydd. A rhaid i chi osod rhai o bobl Jerwsalem yn wylwyr ar y waliau, ac eraill wrth eu tai.”

Rhestr o’r bobl ddaeth yn ôl o Babilon

(Esra 2:1-70)

4Roedd digon o le yn y ddinas, a dim llawer o bobl yn byw ynddi. Doedd bron ddim tai wedi’u hadeiladu ynddi bryd hynny. 5A dyma Duw yn rhoi syniad i mi, i alw’r arweinwyr a’r swyddogion a’r bobl gyffredin at ei gilydd, a’u cofrestru nhw yn ôl eu teuluoedd.

Dyma fi’n dod o hyd i restrau teuluol y rhai ddaeth yn ôl yn wreiddiol. A dyma beth oedd wedi’i gofnodi:

6Dyma restr o bobl y dalaith ddaeth allan o Babilon. Cawson nhw eu cymryd yn gaeth yno gan Nebwchadnesar, brenin Babilon. Daeth pob un yn ôl i Jerwsalem ac i’r trefi eraill yn Jwda lle roedden nhw’n arfer byw. 7Yr arweinwyr oedd Serwbabel, Ieshŵa, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nachamani, Mordecai, Bilshan, Mispar, Bigfai, Nechwm a Baana.

Dyma faint o bobl Israel ddaeth yn ôl:

8Teulu Parosh: 2,172

9Teulu Sheffateia: 372

10Teulu Arach: 652

11Teulu Pachath-Moab (o deuluoedd Ieshŵa a Joab): 2,818

12Teulu Elam: 1,254

13Teulu Sattw: 845

14Teulu Saccai: 760

15Teulu Binnŵi: 648

16Teulu Bebai: 628

17Teulu Asgad: 1,322

18Teulu Adonicam: 667

19Teulu Bigfai: 2,067

20Teulu Adin: 655

21Teulu Ater (sef disgynyddion Chisceia): 98

22Teulu Chashŵm: 328

23Teulu Betsai: 324

24Teulu Charîff: 112

25Teulu Gibeon: 95

26Dynion Bethlehem a Netoffa: 188

27Dynion Anathoth: 128

28Dynion Beth-asmafeth: 42

29Dynion Ciriath-iearîm, Ceffira a Beëroth: 743

30Dynion Rama a Geba: 621

31Dynion Michmas: 122

32Dynion Bethel ac Ai: 123

33Pobl y Nebo arall: 52

34Pobl yr Elam arall: 1,254

35Pobl Charîm: 320

36Pobl Jericho: 345

37Pobl Lod, Hadid ac Ono: 721

38Pobl Senaâ: 3,930

39Yr offeiriaid:

Teulu Idaïa (o linach Ieshŵa): 973

40Teulu Immer: 1,052

41Teulu Pashchwr: 1,247

42Teulu Charîm: 1,017

43Y Lefiaid:

Teulu Ieshŵa (drwy Cadmiel o deulu Hodefa): 74

44Y cantorion:

Teulu Asaff: 148

45Gofalwyr y giatiau:

Teuluoedd Shalwm, Ater, Talmon, Accwf, Chatita a Shobai: 138

46Gweision y deml:

Teulu Sicha

Teulu Chaswffa

Teulu Tabbaoth

47Teulu Ceros

Teulu Sïa

Teulu Padon

48Teulu Lebana

Teulu Hagaba

Teulu Shalmai

49Teulu Chanan

Teulu Gidel

Teulu Gachâr

50Teulu Reaia

Teulu Resin

Teulu Necoda

51Teulu Gassam

Teulu Wssa

Teulu Paseach

52Teulu Besai

Teulu Mewnîm

Teulu Neffwshesîm

53Teulu Bacbwc

Teulu Chacwffa

Teulu Charchwr

54Teulu Batslith

Teulu Mechida

Teulu Charsha

55Teulu Barcos

Teulu Sisera

Teulu Temach

56Teulu Netsïach

Teulu Chatiffa.

57Teuluoedd gweision Solomon:

Teulu Sotai

Teulu Soffereth

Teulu Perida

58Teulu Jala

Teulu Darcon

Teulu Gidel

59Teulu Sheffateia

Teulu Chattil

Teulu Pochereth-hatsbaîm

Teulu Amon.

60Cyfanswm gweision y deml a theuluoedd gweision Solomon: 392.

61Daeth pobl eraill o drefi Tel-melach, Tel-harsha, Cerwb, Adon, ac Immer (ond doedd y rhain ddim yn gallu profi eu bod nhw a’u teuluoedd yn dod o Israel yn wreiddiol):

62Teulu Delaia, teulu Tobeia a theulu Necoda: 652

63Wedyn yr offeiriaid, sef teuluoedd Hafaia, Hacots, a Barsilai (dyn oedd wedi priodi un o ferched Barsilai o Gilead, ac wedi cymryd ei enw).

64Roedd y rhain hefyd wedi chwilio am gofnod o’u teuluoedd yn y rhestrau achau, ond wedi methu ffeindio dim byd. Felly cawson nhw eu rhwystro rhag gwasanaethu fel offeiriaid. 65Dwedodd y llywodraethwr nad oedden nhw i gael bwyta’r bwyd oedd wedi’i gysegru, nes byddai offeiriad yn codi oedd yn gallu penderfynu drwy ddefnyddio’r Wrim a’r Thwmim.

Notes for verses 64–651 entry

Cross-references

66Cyfanswm y bobl aeth yn ôl oedd 42,360, 67(heb gyfri’r 7,337 o weision a morynion oedd ganddyn nhw; ac roedd 245 o gantorion – dynion a merched – gyda nhw hefyd). 68-69Roedd ganddyn nhw 736 o geffylau, 245 o fulod, 435 o gamelod a 6,720 o asynnod.

70Dyma rai o benaethiaid y claniau yn cyfrannu tuag at y gwaith.

Y llywodraethwr – 8 cilogram o aur, 50 powlen, a 530 o wisgoedd i’r offeiriaid.

Notes for verse 701 entry

Text notes

  • Nehemiah 7:70 8 cilogram o aur. Hebraeg, “1,000 drachma aur”. View in passage

71Penaethiaid y claniau – 160 cilogram o aur a 1,300 cilogram o arian.

Notes for verse 712 entries

Text notes

  • Nehemiah 7:71 160 cilogram o aur. Hebraeg, “20,000 drachma aur”. View in passage

  • Nehemiah 7:71 1,300 cilogram o arian. Hebraeg, “2,200 mina o arian”. View in passage

72Yna cyfraniad gweddill y bobl oedd 160 cilogram o aur a 1,200 cilogram o arian, a 67 o wisgoedd i’r offeiriaid.

Notes for verse 721 entry

Text notes

  • Nehemiah 7:72 1,200 cilogram o arian. Hebraeg, “2,000 mina o arian”. View in passage

73Felly dyma’r offeiriaid, Lefiaid, cantorion, gofalwyr y giatiau a gweision y deml i gyd yn setlo i lawr yn eu trefi eu hunain. Ac aeth gweddill pobl Israel yn ôl i fyw i’w trefi hwythau hefyd.

Y Gyfraith yn cael ei darllen, a’r bobl yn ymateb

Pan ddaeth y seithfed mis, aeth pobl Israel o’u trefi

Notes for verse 731 entry

Text notes

  • Nehemiah 7:73 seithfed mis Tishri (neu Ethanim), seithfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Medi i ganol Hydref. View in passage