Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Nahum 3

1Gwae ddinas y tywallt gwaed,

sy’n llawn celwyddau, yn llawn trais

a’r lladd byth yn stopio!

2Daeth sŵn clec y chwip a thwrw’r olwynion,

meirch yn carlamu a cherbydau’n crynu!

3Marchogion yn ymosod,

cleddyfau’n fflachio,

gwaywffyn yn disgleirio!

Pobl wedi’u lladd ym mhobman;

tomenni diddiwedd o gyrff –

maen nhw’n baglu dros y meirwon!

4A’r cwbl o achos drygioni’r butain

ddeniadol oedd yn feistres swynion,

yn gwerthu ei hun i’r cenhedloedd

a swyno a thwyllo pobloedd.

5“Dw i’n mynd i ddelio gyda ti,”

–meddai’r ARGLWYDD hollbwerus.

“Bydda i’n gwneud i ti gywilyddio –

yn codi dy sgert dros dy wyneb;

bydd y cenhedloedd yn dy weld yn noeth

a theyrnasoedd yn gweld dy rannau preifat!

6Bydda i’n taflu budreddi ar dy ben,

a’th wneud yn destun sbort ac yn sioe.

7Fydd neb yn gallu edrych yn hir –

Bydd pawb yn troi i ffwrdd a dweud,

‘Mae Ninefe’n adfeilion,

a does neb yn cydymdeimlo!’

Ble wna i ddod o hyd i rywun i dy gysuro di, Ninefe?”

Notes for verses 5–71 entry

Cross-references

8Wyt ti’n saffach na Thebes ar lan afon Nîl?

Roedd y dŵr fel môr yn glawdd o’i chwmpas,

a’r afon fel rhagfur iddi.

9Roedd yn rheoli’r Aifft a dwyrain Affrica;

roedd ei grym yn ddi-ben-draw!

– mewn cynghrair â Pwt a Libia.

10Ond cafodd ei phobl eu caethgludo,

a’i phlant bach eu curo i farwolaeth

ar gornel pob stryd.

Roedden nhw’n gamblo am ei phobl bwysig,

ac yn rhwymo ei harweinwyr â chadwyni.

Notes for verses 8–103 entries

Text notes

  • Nahum 3:8 Thebes Dinas bwysicaf yr Aifft, gafodd ei choncro gan Ashwrbanipal, brenin Asyria yn 663 CC (Mae safle Thebes tua 400 milltir i’r de o Cairo). View in passage

  • Nahum 3:8 dŵr fel môr Hebraeg, “môr o’r môr”. Roedd afon Nîl dros hanner milltir ar ei thraws wrth Thebes. View in passage

  • Nahum 3:9 dwyrain Affrica Hebraeg, Cwsh, sef teyrnas gref i’r de o’r Aifft, yn cynnwys rhannau o Ethiopia a’r Swdan heddiw. View in passage

11Byddi dithau hefyd yn feddw

ac wedi dy faeddu.

Byddi dithau’n ceisio cuddio rhag y gelyn.

12Bydd dy gaerau i gyd fel coed ffigys

gyda’i ffrwythau cynta’n aeddfed.

O’u hysgwyd bydd y ffrwyth yn syrthio

i gegau’r rhai sydd am eu bwyta!

13Bydd dy filwyr fel merched gwan yn dy ganol;

a giatiau dy wlad ar agor i’r gelyn;

bydd tân yn llosgi’r barrau sy’n eu cloi.

14Dos i dynnu dŵr i’w gadw ar gyfer y gwarchae!

Cryfha dy gaerau!

Cymer fwd a sathra’r clai,

a gwneud brics yn y mowld!

15Bydd tân yn dy losgi di yno,

a’r cleddyf yn dy dorri i lawr –

cei dy ddifa fel cnwd gan lindys.

Notes for verses 14–151 entry

Text notes

  • Nahum 3:14 gwarchae Pan oedd byddin yn ymosod ar ddinas roedd yn amgylchynu’r ddinas a’i thorri i ffwrdd fel bod neb yn gallu mynd i mewn nac allan. View in passage

Gwna dy hun mor niferus â’r lindys;

gwna dy hun mor niferus â’r locust ifanc.

16Roedd gen ti fwy o fasnachwyr

nag sydd o sêr yn yr awyr,

ond maen nhw fel lindys yn bwrw’i groen a hedfan i ffwrdd.

17Roedd dy warchodwyr a’th weision sifil

fel haid o locustiaid yn eistedd ar waliau ar ddiwrnod oer;

ond pan mae’r haul yn codi maen nhw’n hedfan i ffwrdd,

a does neb yn gwybod i ble.

18Mae dy fugeiliaid yn cysgu, frenin Asyria!

Mae dy arweinwyr yn pendwmpian!

Mae dy bobl fel defaid ar wasgar dros y bryniau,

a does neb i’w casglu.

19Does dim gwella ar dy glwyf –

mae dy anaf yn farwol.

Bydd pawb fydd yn clywed y newyddion amdanat

yn dathlu a churo dwylo.

Oes rhywun wnaeth ddianc

rhag dy greulondeb diddiwedd?