Online Bible

Read the Bible

Version
Book
Chapter

Nahum 1

Yr ARGLWYDD yn dial ar Ninefe (Prifddinas Asyria)

1Neges am ddinas Ninefe: Cofnod o weledigaeth Nahum o Elcosh.

Notes for verse 12 entries

Text notes

  • Nahum 1:1 dinas Ninefe roedd safle Ninefe heb fod yn bell o Mosul, gogledd Irac heddiw. View in passage

  • Nahum 1:1 Nahum Ystyr yr enw ydy “llawn cysur”. View in passage

2Mae’r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus sy’n dial;

Mae’r ARGLWYDD yn dial, ac mae ei ddicter yn ffyrnig.

Mae’r ARGLWYDD yn dial ar ei elynion,

ac yn wyllt gyda’i wrthwynebwyr.

3Mae’r ARGLWYDD yn amyneddgar

ac yn gryf –

ond dydy e ddim yn gadael i’r euog osgoi’r gosb.

Notes for verses 2–31 entry

Cross-references

  • Nahum 1:3 – Exodus 34:6 ,Exodus 34:7

Mae’n martsio yn y corwynt a’r storm,

ac mae’r cymylau fel llwch dan ei draed.

4Mae’n gweiddi ar y môr a’i sychu,

ac yn sychu’r afonydd i gyd.

Mae porfa Bashan a Carmel yn gwywo,

ac mae blodau Libanus yn gwywo.

5Mae’r mynyddoedd yn crynu

a’r bryniau’n toddi o’i flaen.

Mae’r tir yn troi’n ddiffeithwch o’i flaen,

y byd, a phopeth sy’n byw ynddo.

Notes for verses 3–51 entry

Text notes

  • Nahum 1:4 Bashan … Carmel … Libanus Ardaloedd yn enwog am eu tir ffrwythlon – gw. Micha 7:14. View in passage

6Pwy all oroesi o flaen ei ddicter?

Pwy all wrthsefyll ei ffyrnigrwydd?

Mae’n tywallt ei lid fel tân,

ac mae’r creigiau’n cael eu dryllio ganddo.

7Mae’r ARGLWYDD yn dda,

ac yn gaer ddiogel mewn argyfwng;

Mae’n gofalu am y rhai sy’n troi ato am help.

8Ond mae’n gyrru ei elynion i’r tywyllwch;

fel llifogydd sy’n ysgubo popeth ymaith,

bydd yn rhoi diwedd ar Ninefe’n llwyr.

9Unrhyw gynlluniau sydd gen ti yn ei erbyn,

bydd yr ARGLWYDD yn eu dinistrio’n llwyr:

fydd ei elyn ddim yn codi yn ei erbyn yr ail waith!

10Byddan nhw fel dynion wedi meddwi’n gaib;

Byddan nhw’n cael eu llosgi fel drysni o ddrain,

neu fonion gwellt wedi sychu’n llwyr.

11Ohonot ti, Ninefe, y daeth un

oedd yn cynllwynio drwg yn erbyn yr ARGLWYDD

– strategydd drygioni!

Notes for verse 111 entry

Text notes

  • Nahum 1:11 Mae’r adnod yma, mae’n debyg, yn cyfeirio at Senacherib (brenin Asyria o 705 i 681 CC) Ymosododd ei fyddin ar Jerwsalem yn 701 CC, pan oedd Heseceia yn frenin ar Jwda – (gw. 2 Brenhinoedd 18:13–19:27). View in passage

12Ond dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud:

“Er eu bod nhw’n gryf ac yn niferus,

byddan nhw’n cael eu torri i lawr, ac yn diflannu.

Er fy mod i wedi dy gosbi di, Jwda,

fydda i ddim yn dy gosbi di eto;

13dw i’n mynd i dorri’r iau roddodd e ar dy war

a dryllio’r rhaffau sy’n dy rwymo.”

14Mae’r ARGLWYDD wedi datgan am Ninefe,

“Fydd gen ti ddim disgynyddion bellach.

Dw i’n mynd i gael gwared â’r eilunod

a’r delwau metel o demlau dy dduwiau.

Bydda i’n paratoi bedd i ti

fydd yn dangos mor ddibwys oeddet ti.”

15Edrychwch! Mae negesydd yn dod dros y mynyddoedd

yn cyhoeddi heddwch!

“Dathla dy wyliau crefyddol, O Jwda,

a chadw dy addewidion!

Fydd y rhai drwg byth yn dy orchfygu eto;

byddan nhw’n cael eu dinistrio’n llwyr.”