Mathew 4
Iesu’n cael ei demtio
(Marc 1:12,13; Luc 4:1-13)
1Yn syth wedyn dyma’r Ysbryd yn arwain Iesu allan i’r anialwch i gael ei demtio gan y diafol. 2Ar ôl bwyta dim byd am bedwar deg diwrnod, roedd yn llwgu. 3Dyna pryd y daeth y diafol i’w demtio. “Os mai Mab Duw wyt ti, gwna i’r cerrig yma droi’n fara,” meddai.
Notes for verses 1–32 entries
Text notes
Matthew 4:2 bwyta dim byd: Weithiau roedd yr Iddewon yn peidio bwyta (sef ‘ymprydio’) am gyfnod, i ddangos eu bod yn caru Duw a bod yn ddrwg ganddyn nhw am eu pechodau. View in passage
Cross-references
Matthew 4:1 – Hebrews 2:18 ; Hebrews 4:15
4“Na!”, atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud mai ‘Nid bwyd ydy’r unig beth mae pobl ei angen i fyw, ond popeth mae Duw yn ei ddweud.’”
Notes for verse 41 entry
Cross-references
Matthew 4:4 – Deuteronomy 8:3
5Wedyn dyma’r diafol yn mynd â Iesu i’r ddinas sanctaidd (hynny ydy Jerwsalem) a gwneud iddo sefyll ar y tŵr uchaf un yn y deml. 6“Os mai Mab Duw wyt ti,” meddai, “neidia i lawr o’r fan yma. Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud:
‘Bydd Duw yn gorchymyn i’w angylion
dy ddal yn eu breichiau,
fel na fyddi’n taro dy droed ar garreg.’”
Notes for verse 61 entry
Cross-references
Matthew 4:6 – Psalms 91:11 ,Psalms 91:12
7Atebodd Iesu, “Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud hefyd: ‘Paid rhoi’r Arglwydd dy Dduw ar brawf.’ ”
Notes for verse 71 entry
Cross-references
Matthew 4:7 – Deuteronomy 6:16
8Yna dyma’r diafol yn mynd ag e i ben mynydd uchel iawn, a dangos holl wledydd y byd a’u cyfoeth iddo. 9A dwedodd y diafol wrtho, “Cei di’r cwbl gen i os gwnei di blygu i lawr i fy addoli i.”
10Ond dyma Iesu’n dweud, “Dos i ffwrdd Satan! Mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: ‘Addola’r Arglwydd dy Dduw, a’i wasanaethu e’n unig.’ ”
Notes for verse 101 entry
Cross-references
Matthew 4:10 – Deuteronomy 6:13
11Yna dyma’r diafol yn ei adael, a daeth yr angylion ato a gofalu amdano.
Iesu’n dechrau pregethu yn Galilea
(Marc 1:14,15; Luc 4:14,15)
12Pan glywodd Iesu fod Ioan wedi cael ei garcharu, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea. 13Ond yn lle mynd i Nasareth, aeth i fyw i Capernaum sydd ar lan y llyn yn ardal Sabulon a Nafftali. 14Felly roedd beth ddwedodd Duw drwy’r proffwyd Eseia yn dod yn wir:
15“Tir Sabulon a thir Nafftali, sydd ar Ffordd y Môr,
a’r ardal yr ochr draw i afon Iorddonen,
hynny ydy Galilea, lle mae pobl o genhedloedd eraill yn byw –
16Mae’r bobl oedd yn byw mewn tywyllwch
wedi gweld golau llachar;
ac mae golau wedi gwawrio
ar y rhai sy’n byw dan gysgod marwolaeth.”
Notes for verses 15–161 entry
Cross-references
Matthew 4:16 – 4:15,16 Isaiah 9:1 ,Isaiah 9:2
17Dyna pryd y dechreuodd Iesu gyhoeddi ei neges, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.”
Galw’r disgyblion cyntaf
(Marc 1:16-20; Luc 5:1-11)
18Un tro roedd Iesu’n cerdded ar lan Llyn Galilea, a gwelodd ddau frawd – Simon, oedd pawb yn ei alw’n Pedr, a’i frawd Andreas. Pysgotwyr oedden nhw, ac roedden nhw wrthi’n taflu rhwyd i’r llyn. 19Dyma Iesu’n galw arnyn nhw, “Dewch, dilynwch fi, a gwna i chi’n bysgotwyr sy’n dal pobl yn lle pysgod.” 20Heb oedi, dyma’r ddau yn gollwng eu rhwydi a mynd ar ei ôl.
21Wrth gerdded yn ei flaen, gwelodd Iesu ddau frawd arall – Iago ac Ioan, dau fab Sebedeus. Roedden nhw mewn cwch hefo Sebedeus eu tad yn trwsio eu rhwydi. Dyma Iesu’n eu galw nhw hefyd, 22a dyma nhw’n gadael y cwch a’u tad a dechrau dilyn Iesu.
Iesu’n iacháu cleifion
(Luc 6:17-19)
23Roedd Iesu’n teithio ar hyd a lled Galilea, yn dysgu’r bobl yn y synagogau, yn cyhoeddi’r newyddion da am deyrnasiad Duw ac yn iacháu pob afiechyd a salwch oedd ar bobl. 24Daeth Iesu’n enwog y tu allan i Galilea, ac roedd pobl o bob rhan o Syria yn dod â phawb oedd yn sâl ato – pobl oedd yn dioddef o afiechydon gwahanol, neu mewn poen, eraill yng ngafael cythreuliaid, yn dioddef o ffitiau epileptig, neu wedi’u parlysu. Iachaodd Iesu nhw i gyd. 25Roedd tyrfaoedd o bobl yn ei ddilyn i bobman – pobl o Galilea, y Decapolis, Jerwsalem a Jwdea, ac o’r ochr draw i afon Iorddonen.
Notes for verses 23–252 entries
Text notes
Matthew 4:25 y Decapolis: Deg o drefi i’r dwyrain o Samaria a Galilea. View in passage
Cross-references
Matthew 4:23 – Matthew 9:35 ; Mark 1:39