No themes applied yet
Marchogaeth i Jerwsalem
(Marc 11:1-11; Luc 19:28-38; Ioan 12:12-19)
1Dyma nhwʼn cyrraedd Bethffage wrth Fynydd yr Olewydd yn ymyl Jerwsalem, a dyma Iesuʼn dweud wrth ddau ddisgybl, 2“Ewch iʼr pentref acw sydd oʼch blaen chi, ac wrth fynd i mewn iddo dewch o hyd i asen wediʼi rhwymo aʼi hebol gyda hi. Dewch â nhw yma i mi, 3ac os bydd rhywun yn ceisioʼch rhwystro, dwedwch, ‘Maeʼr meistr eu hangen nhw; bydd yn eu hanfon yn ôl wedyn.’”
4Digwyddodd hyn er mwyn i beth ddwedodd Duw drwy ei broffwyd ddod yn wir:
5“Dwed wrth bobl Seion,
‘Edrych! Mae dy frenin yn dod!
Maeʼn addfwyn ac yn marchogaeth ar asen;
ie, ar ebol asyn.’” 21:5 Sechareia 9:9
6I ffwrdd âʼr disgyblion, a gwneud yn union beth ddwedodd Iesu wrthyn nhw. 7Pan ddaethon nhw âʼr asen aʼi hebol yn ôl, dyma nhwʼn tafluʼu cotiau drostyn nhw, a dyma Iesuʼn eistedd arnyn nhw. 8Roedd tyrfa fawr yn gosod eu cotiau fel carped ar y ffordd oʼi flaen, neu dorri dail oʼr coed aʼu lledu ar y ffordd. 9Roedd y dyrfa y tu blaen aʼr tu ôl iddo yn gweiddi,
“Hosanna! Clod i Fab Dafydd!”
“Maeʼr un syʼn dod i gynrychioliʼr Arglwydd
wediʼi fendithioʼn fawr!”21:9 Salm 118:25,26
“Clod i Dduw yn y nefoedd uchaf!”
10Roedd y ddinas gyfan mewn cynnwrf pan aeth Iesu i mewn i Jerwsalem. “Pwy ydy hwn?” meddai rhai. 11Ac roedd y dyrfa oʼi gwmpas yn ateb, “Iesu, y proffwyd o Nasareth yn Galilea.”
Iesuʼn clirioʼr deml
(Marc 11:15-19; Luc 19:45-48; Ioan 2:13-22)
12Aeth Iesu i mewn i gwrt y deml a gyrru allan bawb oedd yn prynu a gwerthu yn y farchnad yno. Gafaelodd ym myrddauʼr rhai oedd yn cyfnewid arian aʼu troi drosodd, a hefyd meinciau y rhai oedd yn gwerthu colomennod. 13Yna dwedodd, “Maeʼr ysgrifau sanctaidd yn dweud:
“‘Bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi.’ Ond dych chiʼn ei droi yn ‘guddfan i ladron’!”21:13 a Eseia 56:7; b cyfeiriad at Jeremeia 7:11
14Roedd pobl ddall a rhai cloff yn dod ato iʼr deml, ac roedd yn eu hiacháu nhw. 15Ond roedd y prif offeiriaid aʼr arbenigwyr yn y Gyfraith wedi gwylltioʼn lân wrth weld y gwyrthiau rhyfeddol roedd yn eu gwneud, aʼr plant yn gweiddi yn y deml, “Hosanna! Clod i Fab Dafydd!”21:15 Fab Dafydd: gw. y nodyn ar 9:27.
16“Wyt ti ddim yn clywed beth maeʼr plant ymaʼn ei ddweud?” medden nhw wrtho.
“Ydw,” atebodd Iesu. “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed, ‘Rwyt wedi dysgu plant a babanod i dy foli di’?”21:16 Salm 8:2 (LXX)
17Dyma feʼn eu gadael nhw, a mynd allan i Bethania, lle arhosodd dros nos.
Y goeden ffigys yn gwywo
(Marc 11:12-14,20-24)
18Yn gynnar y bore wedyn roedd ar ei ffordd yn ôl iʼr ddinas, ac roedd e eisiau bwyd. 19Gwelodd goeden ffigys ar ochr y ffordd, ac aeth draw ati ond doedd dim byd ond dail yn tyfu arni. Yna dwedodd, “Fydd dim ffrwyth yn tyfu arnat ti byth eto!”, a dymaʼr goeden yn gwywo.
20Pan welodd y disgyblion hyn roedden nhw wediʼu syfrdanu. “Sut wnaeth y goeden wywo mor sydyn?” medden nhw.
21“Credwch chi fi,” meddai Iesu, “dim ond i chi gredu a pheidio amau, gallech chi wneud mwy na beth gafodd ei wneud iʼr goeden ffigys. Gallech chi ddweud wrth y mynydd yma, ‘Dos, a thaflu dy hun iʼr môr,’ a byddaiʼn digwydd. 22Cewch beth bynnag dych chiʼn gofyn amdano wrth weddïo, dim ond i chi gredu.”
Amau awdurdod Iesu
(Marc 11:27-33; Luc 20:1-8)
23Dyma Iesuʼn mynd i gwrt y deml a dechrau dysguʼr bobl yno. A dymaʼr prif offeiriaid aʼr arweinwyr Iddewig eraill yn dod ato, a gofyn iddo, “Pa hawl sydd gen ti i wneud beth wnest ti? Pwy roddodd yr awdurdod i ti?”
24Atebodd Iesu nhw, “Gadewch i mi ofyn cwestiwn i chi. Os rhowch chiʼr ateb i mi, ateba iʼch cwestiwn chi. 25Roedd Ioan yn bedyddio. Ai Duw anfonodd e neu ddim?”
Wrth drafod y peth gydaʼi gilydd, dyma nhwʼn dweud, “Os atebwn ni ‘Ie’, bydd yn gofyn i ni, ‘Pam doeddech chi ddim yn ei gredu felly?’ 26Ond allwn ni ddim dweud ‘Na’, rhag iʼr dyrfa ymosod arnon ni. Maen nhw i gyd yn meddwl fod Ioan yn broffwyd.”
27Felly dyma nhwʼn gwrthod ateb, “Dŷn ni ddim yn gwybod,” medden nhw.
“Felly dw i ddim yn mynd i ateb eich cwestiwn chi chwaith,” meddai Iesu.
Stori y ddau fab
28“Beth ydych chiʼn feddwl? Roedd rhyw ddyn a dau o blant ganddo. Meddai wrth yr hynaf, ‘Dos i weithio yn y winllan heddiw.’ 29‘Na wna i’ meddai hwnnw, ond yn nes ymlaen newidiodd ei feddwl a mynd.
30“Dymaʼr tad yn mynd at y mab arall a dweud yr un peth. Atebodd hwnnw, ‘Siŵr iawn, dad,’ ond aeth e ddim. 31Pa un oʼr ddau fab wnaeth beth oedd y tad eisiau?” “Y cyntaf,” medden nhw.
Meddai Iesu wrthyn nhw, “Credwch chi fi, bydd y rhai syʼn casglu trethi i Rufain aʼr puteiniaid yn dod dan deyrnasiad Duw oʼch blaen chi! 32Achos roedd Ioan wedi dod i ddangos y ffordd iawn i chi, a dyma chiʼn gwrthod ei gredu. Ond dymaʼr bobl syʼn casglu trethi i Rufain aʼr puteiniaid yn credu! A hyd yn oed ar ôl gweld hynnyʼn digwydd, wnaethoch chi ddim newid eich meddwl aʼi gredu e!
Storiʼr tenantiaid
(Marc 12:1-12; Luc 20:9-19)
33“Gwrandwch ar stori arall: Roedd rhyw ddyn a thir ganddo wedi plannu gwinllan. Cododd ffens oʼi chwmpas, cloddio lle i wasguʼr sudd oʼr grawnwin ac adeiladu tŵr iʼw gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell.
34“Pan oedd hiʼn amser casgluʼr grawnwin, anfonodd weision at y tenantiaid i nôl ei siâr oʼr ffrwyth. 35Ond dymaʼr tenantiaid yn gafael yn y gweision, ac yn ymosod ar un, lladd un arall, a llabyddio un arall â cherrig. 36Felly dymaʼr dyn yn anfon gweision eraill, mwy ohonyn nhw y tro yma, ond dymaʼr tenantiaid yn gwneud yr un peth iʼr rheiny.
37“Yn y diwedd dymaʼr dyn yn anfon ei fab atyn nhw. ‘Byddan nhwʼn parchu fy mab i,’ meddai. 38Ond pan welodd y tenantiaid y mab, dyma nhwʼn dweud wrth ei gilydd: ‘Hwn syʼn mynd i etifedduʼr winllan. Os lladdwn ni hwn cawn niʼr winllan.’ 39Felly dyma nhwʼn gafael ynddo, aʼi daflu allan oʼr winllan aʼi ladd.
40“Felly, beth fydd y dyn biauʼr winllan yn ei wneud iʼr tenantiaid pan ddaw yn ôl?”
41Dyma nhwʼn ateb, “Bydd yn lladd y cnafon drwg! Wedyn bydd yn gosod y winllan ar rent i denantiaid newydd, fydd yn barod i roi ei siâr oʼr ffrwythau iddo bob tymor.”
42Dwedodd Iesu wrthyn nhw, “Ydych chi wedi darllen yn yr ysgrifau sanctaidd erioed:
‘Maeʼr garreg wrthododd yr adeiladwyr
wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen;
yr Arglwydd wnaeth hyn,
ac maeʼr peth yn rhyfeddol yn ein golwg.’?21:42 Salm 118:22-23
43“Hyn dw iʼn ei ddweud: fod y breintiau o fod dan deyrnasiad Duw yn cael eu cymryd oddi arnoch chi aʼu rhoi i bobl fydd yn dangos ei ffrwyth yn eu bywydau. 44Bydd pwy bynnag syʼn baglu ar y garreg yma yn dryllioʼn ddarnau, a bydd pwy bynnag maeʼr garreg yn syrthio arno yn cael ei fathru.”21:44 Dydy adn. 44 ddim yn rhai llawysgrifau.
45Pan glywodd y prif offeiriaid aʼr Phariseaid straeon Iesu, roedden nhwʼn gwybod yn iawn ei fod yn sôn amdanyn nhw. 46Roedden nhw eisiau ei arestio, ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw, am fod y bobl yn credu ei fod yn broffwyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2015